Fideo
 
Llun fideo llonydd o Satch Dixon allan o "The Road from Kingston"
       
 
Ruth Carter
 
 
Mae gen i radd BA mewn Celfyddyd Gain o Brifysgol Sheffield Hallam. Trwy gydol fy ngradd, roeddwn yn arbenigo mewn gwneud ffilmiau ac es i weithio fel cyfarwyddwr cynorthwyol cyntaf ar fy liwt fy hunan, ac ymgynghorydd sgriptiau o fewn y sector ffilmiau byr annibynnol.

Rwyf wedi derbyn hyfforddiant proffesiynol yn y meysydd canlynol:
Sgriptio, theori genre, golygu sgriptiau, recordio sain ar leoliad a sain ôl-gynhyrchu ac arferion celfyddydau gyda throseddwyr ifanc.

Rwyf wedi cynhyrchu a chyfarwyddo rhaglenni dogfen ar gerddoriaeth a rhaglenni hyrwyddo i gerddorion a mudiadau/digwyddiadau celf ac rwyf wrthi’n datblygu nifer o sgriptiau ffilm byr a dwy sgript ffilm rhaglenni nodwedd.

Ymysg fy ngwaith ym maes celfyddydau cymunedol mae:


Tiwtora mewn ysgrifennu sgriptiau ar gyfer ‘Lights, Camera, Action’, grwp o oedolion cymysg o ran gallu gydag anghenion arbennig. Arweiniodd hyn at sgript dyfeisedig a ffilmiwyd yn 2000.

Mentor ysgrifennu sgriptiau a chynhyrchu prosiect ieuenctid ‘Maid in Wales’ a drefnwyd gan Wasanaeth Ieuenctid Powys a Chyswllt Celf. Ers hynny dangoswyd y ffilm yn sinema’r celfyddydau yn yr Amwythig a’r ICA yn Llundain fel rhan o Wyl Ffilm Llundain 2005

Cyd-arweinydd ar y prosiect ieuenctid ‘Have We Got Views For You’ a ariannwyd gan Y Gronfa Loteri - Rhaglen Cyfle oedd dan ofal Gwasanaeth Ieuenctid Powys a Chyswllt Celf. Sefydlwyd y prosiect hwn i bobl ifanc mewn risg, a bydd yn arwain at ffilm fer lle mae’r bobl ifanc eu hunain wedi cyfweld â’u cyfoedion a’u hathrawon ar faterion yn ymwneud â bywyd ysgol.

Rwyf ar gael i helpu trefnu a rhedeg prosiectau ar wneud ffilmiau i bobl ifanc a grwpiau cymunedol, ac rwyf yn awyddus iawn i ddatblygu prosiectau ar y cyd gydag ymarferwyr ym meysydd celf gwahanol, yn enwedig cerddoriaeth, dawns a ffotograffiaeth.

O fewn fy maes gwaith i, byddaf yn parhau i ysgrifennu a chwilio am gyfleoedd ariannu i gyfarwyddo fy sgriptiau fy hunan ochr yn ochr â’m gwaith ar y liwt fy hunan ym maes cynhyrchu ffilmiau byr.

cyswllt:

Ruth Carter
3 Narrow Street
Llanfyllin
SY22 5BU
 
01691 648 655
 
ruth.mcarter@btopenworld.com
 

 

 

 

 

Llun fideo llonydd o "Groove Lab"

 

 

 

 

Llun fideo llonydd o "Maid in Wales"

 

 

 

 

Llun fideo llonydd o’r Dead Pixels o ffilm hyrwyddo Gwyl y Gweithdy 2005

 

 

 

 

 

‘The Madness of Angels’ – llun llonydd o ffilm fer 2 16mm

^brig

 
 

Homeland Security

Edited by Ruth Carter.

An excerpt from a collaborative video installation with Tom Gilhespy.

 
 

© Hawlfraint Cyswllt Celf 1994-2007. Cedwir pob hawl.

Rhif Cwmni Cofrestredig : 02911716

 
Amdanom Ni - Polisi Preifatrwydd - Telerau ac Amodau Defnyddio’r Wefan - Gwadiad Gwefan - Hysbysiad Hawlfraint - Map O'r Safle