Aelodaeth
   
   
       
 
Aelodaeth
 
 

Os hoffech ymaelodi â Chyswllt Celf am £12 y flwyddyn, gallwch fanteisio ar y canlynol:

Cyngor a gwybodaeth ar bob agwedd ar gelfyddydau
cymunedol, gan gynnwys cynllunio a datblygu
prosiectau, codi arian a manylion cysylltwyr
artistiaid
 
Bwletinau Newyddion rheolaidd
Sicrhau bod gwybodaeth am ariannu ar gael
Gwybodaeth am gyfleoedd gwaith
Cyfleoedd i rwydweithio
Hawl i bleidleisio yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
Lle ar ein gwefan i hysbysebu eich gwaith
Mynediad i arian hyfforddi

Sefydliad unigryw ar ei dyfiant yw Cyswllt Celf. Gallwn roi cyngor a gwybodaeth i artistiaid a chleientiaid. Byddwn yn gweithio gydag ysgolion, grwpiau cymunedol, addysg bellach, cyrff anffurfiol a gwirfoddol; mewn gwirionedd, pryd bynnag y bydd pobl yn dod ynghyd i archwilio, i rannu, ac i ddathlu’r cyfleoedd y gall celfyddydau eu cynnig i bawb. Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill, byddwn yn lansio prosiectau ac achlysuron a byddwn yn rhoi cefnogaeth ymarferol i artistiaid unrhyw ddisgyblaeth sydd am fod yn rhan o’r sefydliad cyffrous hwn.

Os am lawr lwytho ffurflen ymaelodi, cliciwch ar y linc berthnasol isod:

Ffurflen Ymaelodi Cymraeg

Ffurflen Ymaelodi Saesneg

   
    ^ brig  
 

© Hawlfraint Cyswllt Celf 1994-2007. Cedwir pob hawl.

Rhif Cwmni Cofrestredig : 02911716

 
Amdanom Ni - Polisi Preifatrwydd - Telerau ac Amodau Defnyddio’r Wefan - Gwadiad Gwefan - Hysbysiad Hawlfraint - Map O'r Safle