Celf Weledol


Amy Sterly

Mae Amy Sterly yn byw yng Nghymru, ond mae’n hanu o Chicago yn wreiddiol. Enillodd radd mewn Celf Gain o Goleg Rockford, Illinois ym 1986. Symudodd i Brydain ym 1989, ac ers hynny mae wedi arddangos mewn nifer o leoliadau drwy Brydain, Ewrop a’r Unol Daleithiau fel gwneuthurwr printiau ac fel cerflunydd. Yn 2006, derbyniodd Amy Grant Prosiect gan Gyngor y Celfyddydau i ymchwilio i wneuthurwyr printiau yng Nghymru ac yn 2009, derbyniodd Grant ‘Cyfle i Greu’ i sefydlu Gweithdai Printio Symudol ym Mhowys.

Rwyf yn defnyddio dull sychbwynt i wneud printiau, sy’n golygu crafu neu dynnu llun ar gerdyn, rhoi inc ar y cerdyn a’i wasgu gyda phapur ysgythru parod. Trwy ddysgu’r technegau hyn gyda gwasg symudol, mae’n creu posibiliadau di-ben-draw ar gyfer gweithdai mewn ysgolion, neuaddau cymuned, parciau neu wyliau. Yn 2010 ’dwi wedi cynnal cyfres o weithdai gyda Phonthafren yn y Drenewydd, a’r canolfannau allanol amrywiol, a gyda’r Grŵp Prosiect yng Nghroesoswallt. ’Dwi hefyd wedi mynd â’r wasg i’r clwb ar ôl ysgol yn Llanfair Caereinion i wneud cardiau Nadolig gyda’r plant.

CV

Amy Sterly CV

Cyswllt

Amy Sterly

Rose Cottage

Melin y ddol

Llanfair Caereinion

Powys

SY21 0ED

(01938) 811 757

Delwyddau

Printmaking

Demonstration

Printmaking

Workshop