Celf Weledol
Graham Roberts
Prosiectau cyhoeddus cyfranogol, cymunedol ac addysgiadol yw maes gwaith arbenigol Graham, sy’n grefftwr gweithredol.
Ym maes dylunio 3D, dodrefnu ac addurno ystafelloedd y mae cefndir a chymwysterau Graham, ac mae ganddo brofiad yn ymestyn dros gyfnod o dri deg o flynyddoedd.
Ar ben hyn, mae wedi paratoi gwaith ymgynghorol i athrawon ac awdurdodau lleol yn gysylltiedig â’r cwricwlwm, hyfforddiant mewn swydd a rheoli’r celfyddydau.
Mae’n athro trwyddedig, ac wedi cofrestru gyda’r Cyngor Addysgu Cyffredinol.
Ymysg ei weithiau comisiwn a gweithiau preswyl mae MacDonald’s Foods, Cyngor Sir Powys, Dwr Hafren Trent, Cyngor Sir Y Fflint, Cyngor Sir yr Amwythig, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Oriel Davies ac ysgolion a grwpiau cymunedol ar hyd a lled Canolbarth a Gogledd Cymru.
Mae Graham yn falch i gael cyfle i weithio gyda chymunedau ar brosiectau mawr neu fach.
Gall prosiectau fod yn Gymraeg neu’n Saesneg.



