Celf Weledol
Ingrid Maugham
Rwyf wedi gweithio ym maes dylunio a chelf greadigol ers rhyw deg mlynedd ar hugain, ac yn gweithio ym maes prosiectau cymunedol ers rhyw dair blynedd ar ddeg.
Rwyf yn meddu ar brofiad eang o weithio gyda phlant ac ysgolion ac yn parhau i weithio gydag oedolion sydd ag anableddau dysgu - rwyf wedi derbyn hyfforddiant arbenigol y maes hwn.
Rwyf yn gweithio mewn ystod o gyfryngau, gan gynnwys mosaig, persbecs, gwaith 3D, arlunio, tynnu lluniau, collage, argraffu, defnyddio deunyddiau wedi’u hailgylchu ac ati a hyn oll mewn prosiectau gyda lleoliadau penodol, mewn gerddi, gosodiadau aml-gyfryngol, a phrosiectau yn defnyddio agweddau gweledol/dawns/cerdd a drama. Gellir llunio prosiectau gydag ysgolion yn ôl gofynion unigol, neu gellir eu cysylltu â’r cwricwlwm.
Fy nod yw dyfeisio syniadau / prosiectau sy’n deillio o ac yn mynegi gallu creadigol a medrau’r cyfranogwyr, fydd yn arwain (efallai!) at ddarganfod, datblygu a chreu teimlad o gyrhaeddiad a HWYL i’r unigolion!
Gellir gweld gwaith mosaig yn addas i fynedfa yn:
- Ysgol Babanod Gungrog, Y Trallwng
- Ysgol Gynradd Y Groes
- Ysgol Gynradd Carreghwfa
- Ysgol Gynradd Llanidloes
- Ysgol Gynradd Trefnanney
Mae murluniau i’w gweld yn:
Canolfan Ymwelwyr Melin Y Nant (Dros Dro)
Ysgol Babanod Ardwyn, Y Trallwng



