Ffilm
Ruth Carter
Mae gen i radd BA mewn Celfyddyd Gain o Brifysgol Sheffield Hallam. Trwy gydol fy ngradd, roeddwn yn arbenigo mewn gwneud ffilmiau ac es i weithio fel cyfarwyddwr cynorthwyol cyntaf ar fy liwt fy hunan, ac ymgynghorydd sgriptiau o fewn y sector ffilmiau byr annibynnol.
Rwyf wedi derbyn hyfforddiant proffesiynol yn y meysydd canlynol: Sgriptio, theori genre, golygu sgriptiau, recordio sain ar leoliad a sain ôl-gynhyrchu ac arferion celfyddydau gyda throseddwyr ifanc.
Rwyf wedi cynhyrchu a chyfarwyddo rhaglenni dogfen ar gerddoriaeth a rhaglenni hyrwyddo i gerddorion a mudiadau/digwyddiadau celf ac rwyf wrthi’n datblygu nifer o sgriptiau ffilm byr a dwy sgript ffilm rhaglenni nodwedd.
Ymysg fy ngwaith ym maes celfyddydau cymunedol mae:
- Tiwtora mewn ysgrifennu sgriptiau ar gyfer ‘Lights, Camera, Action’, grwp o oedolion cymysg o ran gallu gydag anghenion arbennig. Arweiniodd hyn at sgript dyfeisedig a ffilmiwyd yn 2000.
- Mentor ysgrifennu sgriptiau a chynhyrchu prosiect ieuenctid ‘Maid in Wales’ a drefnwyd gan Wasanaeth Ieuenctid Powys a Chyswllt Celf. Ers hynny dangoswyd y ffilm yn sinema’r celfyddydau yn yr Amwythig a’r ICA yn Llundain fel rhan o Wyl Ffilm Llundain 2005
- Cyd-arweinydd ar y prosiect ieuenctid ‘Have We Got Views For You’ a ariannwyd gan Y Gronfa Loteri - Rhaglen Cyfle oedd dan ofal Gwasanaeth Ieuenctid Powys a Chyswllt Celf. Sefydlwyd y prosiect hwn i bobl ifanc mewn risg, a bydd yn arwain at ffilm fer lle mae’r bobl ifanc eu hunain wedi cyfweld â’u cyfoedion a’u hathrawon ar faterion yn ymwneud â bywyd ysgol.
Rwyf ar gael i helpu trefnu a rhedeg prosiectau ar wneud ffilmiau i bobl ifanc a grwpiau cymunedol, ac rwyf yn awyddus iawn i ddatblygu prosiectau ar y cyd gydag ymarferwyr ym meysydd celf gwahanol, yn enwedig cerddoriaeth, dawns a ffotograffiaeth.
O fewn fy maes gwaith i, byddaf yn parhau i ysgrifennu a chwilio am gyfleoedd ariannu i gyfarwyddo fy sgriptiau fy hunan ochr yn ochr â’m gwaith ar y liwt fy hunan ym maes cynhyrchu ffilmiau byr.



