Cerdd
Tony Skeggs
Cychwynnais ganu’r gitâr yn ifanc iawn, ac rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i ennill bywoliaeth fel cerddor proffesiynol ers gadael yr ysgol (yn gwneud nifer o swyddi eraill i gadw fy mhen uwchben y dwr ar y ffordd!) Dros y deg mlynedd ar hugain diwethaf, rwyf wedi perfformio ar hyd a lled y byd, yn bennaf yn y sector corfforaethol ac rwyf hefyd wedi recordio dros 30 albwm. Rwyf wedi meithrin sgiliau ar nifer o offerynnau eraill, ac rwyf yn mwynhau’r broses recordio cymaint ag unrhyw beth arall.
Ar hyn o bryd rwy’n ennill bywoliaeth fel perfformiwr (unawdydd a gitâr yn bennaf) ac mae gen i stiwdio fach yn fy nghartref lle dwi’n brysur iawn gyda nifer o brosiectau gwahanol.
Ymysg fy mhrofiadau gyda Chyswllt Celf, mae rhedeg gweithdai cerdd, ac rwyf wedi cael cyfle’n ddiweddar i recordio nifer ohonynt. Rwyf hefyd wedi cymryd rhan mewn rhai prosiectau cerdd cymunedol sydd wedi arwain at greu CD ar gyfer Cymuned Oldford.
Yn y dyfodol, rwyf yn gobeithio cael cynnal mwy o weithdai a’u datblygu yn feysydd recordio a pherfformio. Hoffwn redeg gweithdy ‘perfformiad cerddorol' i’r cerddorion a chantorion sydd yn meddu ar brofiad, ac sydd am wneud gyrfa allan o berfformio.



