Cysylltiadau â gwefannau eraill
Gall ein gwefan cynnwys cysylltiadau â gwefannau eraill sydd o ddiddordeb. Fodd bynnag, ar ôl i chi ddefnyddio’r cysylltiadau hyn i adael ein gwefan ni, dylid nodi nad oes gennym unrhyw reolaeth dros y gwefannau eraill. Felly, ni fyddwn yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb dros warchod a diogelu’r wybodaeth a roddir gennych wrth ymweld â gwefannau eraill, ac nid yw’r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol i’r gwefannau hynny. Dylech gymryd gofal, ac edrych ar y datganiad preifatrwydd sy’n berthnasol i’r wefan dan sylw.
Ni fyddwn yn gwerthu, dosbarthu nac yn prydlesu eich gwybodaeth bersonol i drydydd parti oni roddir caniatâd gennych, neu oni bai bod hynny’n ofynnol yn gyfreithiol. Gallwn ddefnyddio eich manylion personol i anfon gwybodaeth berthnasol atoch ynghylch cyfleoedd gwaith a chyfarfodydd.
Gallwch ofyn am fanylion yr wybodaeth bersonol sydd gennym arnoch, dan y
Ddeddf Diogelu Data 1998. Bydd angen talu ffi fach. Os hoffech dderbyn copi
o’r wybodaeth sydd gennym arnoch, gallwch ysgrifennu at: Cyswllt Celf,
Canolfan Ieuenctid a Chymuned, Llanfyllin, Powys, SY22 5DR.
Os ydych o’r farn nad yw’r wybodaeth sydd gennym yn gywir neu’n gyflawn, a wnewch chi ysgrifennu atom neu anfon e-bost atom cyn gynted â phosibl. Byddwn yn cywiro unrhyw gamgymeriadau yn brydlon.