Cyswllt Celf: yn meithrin dysgu trwy brofiadau creadigol

Sefydliad celf cymunedol ysbrydol yw Cyswllt Celf, sy’n gweithio yng Ngogledd Powys ac ar hyd y cymunedau ar y ffin. Rydym yn derbyn arian refeniw oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru, ac wedi darparu prosiectau celf cyfranogol, uchel eu hansawdd, mewn ystod eang o gyfryngau celfyddydol ers 1994. Mae ein gwaith gydag ysgolion, plant, pobl ifanc, pobl sydd ag anableddau dysgu a’r gymuned ehangach yn cynnig mwy o gyfleoedd i gyfrannu a chymryd rhan, ac mae’n rhoi cyflwyniad dwyieithog, cynnes ei groeso, i’r celfyddydau.

Rydym yn rhoi cyfleoedd i artistiaid mewn cyfryngau o bob math ddatblygu prosiectau celf arloesol o fewn y gymuned leol ac ar lefel ehangach, trwy weithredu fel brocer rhwng artistiaid, mudiadau a chyrff diwylliannol amrywiol. Mae gennym bortffolio helaeth, rydym yn uchelgeisiol, ac mae ein statws heb ei ail.

Cymerwch amser i edrych ar ein safle. Gadewch inni wybod beth yw eich barn. Cysylltwch â ni os ydych o’r farn y gallwn eich cynorthwyo chi i ddatblygu prosiect, neu fel artist eich hunan.

Mae ein portffolio yn helaeth, ein huchelgais yn uchel, a’n statws heb ei ail.

Ein Dull o Weithio

Mae Cyswllt Celf yn creu, ymgynghori, cydweithio ac yn cydlynu.

Rydym yn creu cyfleoedd newydd i fynegi gallu artistig.

Rydym yn ymgynghori gyda’r cymunedau lleol i adnabod a datblygu gweithgareddau fydd yn annog mwy o gyfranogaeth ym myd y celfyddydau, ac yn hyrwyddo mynediad i’r celfyddydau i bawb.

Rydym yn cydweithio gydag unigolion, mudiadau, cleientiaid ac arianwyr wrth gyflawni prosiectau a rhaglenni.

Rydym yn cydlynu prosiectau ar ran eraill, ac yn hwyluso datblygiad partneriaethau creadigol ymysg artistiaid, ysgolion, clybiau ieuenctid, grwpiau cymunedol, mudiadau eraill ym maes y celfyddydau, y gwasanaeth iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, y gymuned fusnes a phartneriaid eraill.

Nawdd

Mae Cyswllt Celf yn derbyn arian refeniw ar gyfer costau rhedeg, ac arian ar gyfer prosiectau oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru.

Bob blwyddyn rydym yn derbyn arian gan ein partneriaid, sef Cyngor Sir Powys, Gwasanaeth Ieuenctid Powys, Mencap, Cymdeithas Tai Clwyd Alyn a nifer o rai eraill.

Strwythur

Cwmni cyfyngedig trwy warant, dielw, yw Cyswllt Celf. Bwrdd Cyfarwyddwyr gwirfoddol sy’n rheoli’r cwmni, sy’n cyflogi Cyfarwyddwr Celf rhan-amser, Swyddog Prosiect llawn-amser a Swyddog Gweinyddol rhan-amser. Mae’r dogfennau sy’n ymwneud â’n cyfansoddiad cyfreithiol a’n polisïau ar gael i’w harchwilio yn ein swyddfa.

Hanes

Sefydlwyd Cyswllt Celf ym mis Mawrth 1994, yn gorff cydweithredol dielw, gan grŵp o 5 artist. Symudodd y grŵp i’r Ganolfan Ieuenctid a Chymuned ym 1995.

Ym 1997, penodwyd cydlynydd rhan-amser a bwrdd rheoli newydd, a gwelwyd cychwyn ar brosiectau celf cymunedol amrywiol.

Ym 1998, derbyniwyd grant o £147,000 dros gyfnod o 3 blynedd oddi wrth gronfa loteri “Arian i Bawb” Cyngor Celfyddydau Cymru, er mwyn datblygu prosiectau cyffrous yn ardal Gogledd Powys. Hefyd yn ystod y flwyddyn yma, llwyddwyd i godi gwerth mwy na £20,000 o arian cyfatebol.

Ni enillodd y wobr gyntaf erioed gan Arts & Business Cymru "Best Sponsorship of New Work" am ein gwaith gyda chwmni Dŵr Hafren Trent ar Lwybr Cerfluniau Llyn Efyrnwy.

Ym mis Medi 2000 cyflwynwyd y prosiect "Reminiscences", oedd yn cysylltu pobl ifanc a phobl hŷn, yng nghromen y mileniwm.

Ers 2002 rydym yn gleient refeniw i Gyngor Celfyddydau Cymru, sydd wedi cynnig cefnogaeth enfawr a chyngor inni yn ystod ein cyfnod datblygu.

Yn 2003, y disgrifiad ohonom yn adroddiad blynyddol Cyngor Celfyddydau Cymru, oedd ein bod wedi gwneud gwaith gwych ym maes celf cymunedol a’n bod yn enghraifft ardderchog ym maes arfer celf cymunedol.

Yn 2004 cafwyd cyfle i ddathlu ein pen-blwydd yn 10 oed, gyda digwyddiad agored, pan roedd Lembit Opik, aelodau Cyswllt Celf, cynghorwyr y Dref a llawer o bobl eraill yn bresennol.

Yn 2005 buddsoddwyd mwy o arian ynom gan Gyngor Celfyddydau Cymru trwy’r Prosiect Cynaladwyedd, oedd yn cynnwys ni, CARAD a Chelf o Gwmpas.

Rhwng 2005 - 2007 derbyniwyd cyllid trwy WEFO (Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru). Roedd hyn yn ein galluogi i gyflogi Swyddog Prosiect, oedd yn arwain at weithgaredd prosiect, oedd felly yn ein galluogi i wneud y swydd yn gynaliadwy. Arweiniodd hefyd at rai prosiectau cyffrous, megis 9 o ysgolion cynradd yn ymweld â’r Senedd i ganu hwiangerddi Cymreig.

Rydym yn datblygu ac yn ehangu ein gwaith gyda mudiadau partner o hyd, gan greu ffynonellau ariannu cynaliadwy, a chodi ymwybyddiaeth ynghylch ein gwasanaethau i aelodau yng Ngogledd Powys.