Canolfan Hydggen Bro Dyfi, Machynlleth Commission
Posted: 1st May 2009
Stan Jankwowski carried out workshops with local groups in Machynlleth and created a copper dragon which you can see on the front of Canolfan Hyddgen.
The project was made possible due to funding from Powys County Council’s Community Focused Schools initiative and was facilitated by us.

Bro Dyfi, Machynlleth Commission
Posted: 9th February 2009
Pippa Taylor, a sculptor from Machynlleth has been leading wood carving workshops with local community groups, the youth club and sixth formers all around Machynlleth. All the groups contributed to the wooden mural, which depicts the tree of learning and is on permanent display outside the entrance to the Bro Dyfi Post 16 Training Centre.
The project was made possible due to funding from Powys County Council’s Community Focused Schools initiative and was facilitated by us.

Maes-y-Dre Commission
Posted: 17th January 2009
Ingrid Maugham has been working at Maes-y-Dre School in Welshpool to create a mural for the entrance way. People from the local community and from the schools Maes-y-Dre, Oldford, Ardwyn and Gungrog were all involved in creating the themes and ideas for the mural. This was a partnership project with Community Focused Schools.


Gweithdai Chwedlau Yn Ysgolion Gogledd Powys - Mair Tomos Ifans
Posted: 24 Gorffennaf 2008
Bum yn ymweld â naw ysgol gynradd yn Ngogledd Powys – Llanfair Caereinion, Llanrhaeadr ym Mochnant, Llanerfyl, Pennant- Penybont fawr, Pontrobert, Llanfihangel yng Ngwynfa, Efyrnwy – Llanwyddyn, Y Banw – Llangadfan a Llanfyllin.
Yn gyffredinol yn Gymraeg yr oeddwn yn cyflwyno y chwedlau ac yn cynnal y gweithdai – er bu ambell i ddosbarth cyfrwng Saesneg yn rhan o’r cynllun e.e Ysgol Llanfair Caereinion a Llanfyllin. Roedd maint yr ysgolion yn amrywiol iawn, felly hefyd cyfrwng iaith yr ysgolion. Roedd gofynion pob ysgol yn wahanol ac ymdrechais fy ngore i weithredu o fewn eu anghenion.
Cefais y cyfle i weithio efo pob blwyddyn ysgol mewn amwryw o’r ysgolion e.e. Efyrnwy a Llangadfan - sesiwn bore efo plant Cyfnod Allweddol 1 a sesiwn p’nawn efo plant Cyfnod Allweddol 2 neu vice versa. Yn ysgol Llanrheadr y Mochnant bum yn gweithio efo’r plant ffrwd Gymraeg yn unig – ond cafodd plant ffrwd Saesneg gyfle i ddod i weld ‘ perfformiad’ o Branwen gan blant Cyfnod Allweddol 2. Yn ysgolion Llanfyllin a Llanfair Caereinion dewisiwyd 2 ddobarth – un cyfrwng Cymraeg ac un cyfrwng Saesneg i gael gweithdy hanner diwrnod yr un. Yn ysgol Llanerfyl bum yn gweithio gydol y dydd efo plant Cyfnod Allweddol 2 - bum yn gweithio efo nhw mewn sawl safle gwahanol o fewn yr ysgol – y dobarth, y buarth, yr ardd. Cefais gyfle hefyd ym Llanfihangel i weithio efo’r ysgol gyfan tu allan, ac ym Mhontrobert cefais gyfle gwych i fynd a’r plant i’r parc i weithio – hyfryd dros ben. Roeddwn yn mwynhau yr amrywiaeth yr oedd pob ymweliad yn ei roi i mi a’r prosesau a’r sialensau creadigol yr oedd hynny yn eu greu wrth i mi addasu y gwaith ar gyfer yr amgylchiadau.
Mi fum yn adrodd nifer fawr o chwedlau gan gynnwys Branwen, Cantre’r Gwaelod, Melangell, Y Dyfrgi Coch, Y Delyn Aur, Idris Gawr, Gelert, Dyn Gwyrdd y Gwernan, Haul Llanfabon, Owain Glyndwr a Huw Sele, Blodeuwedd; ac hefyd mi ddysgais i nifer o chwedlau a straeon newydd gan y plant a’r athrawon gan gynnwys chwedl Gwiber Llanraeadr ym Mochnant, Broga Llanwyddyn, Gwiber Llanerfyl a Hanes y Blotyn Du. Yr oeddwn hefyd yn canu nifer alwon ar y delyn e.e. Cader Idris, Gwyr Harlech, Pwt ar y Bys ac yn canu a dysgu nifer o ganeuon i’r plant gan gynnwys Ar Lan y Mor, Clychau Aberdyfi, Hab Hawen Cadi Ha – ac efo ‘r plant lleiaf un bum yn canu Hwiangerddi adanabyddus.
Byddwn fel arfer yn adrodd chwedl e.e Branwen neu Gantref Gwaelod, Y Delyn Aur ac yna yn creu gweithdy drama/stori yn seiliedig ar y chwedl a wedyn yn ail adrodd y chwedl a’r plant yn ei ‘phortreadu’ drwy gyfrwng gwaith cymeriadol a gwaith symud. Wedyn am weddill y sesiwn byddwn yn rhannu amrywiol straeon efo’r plant ac fe fyddent hwythau yn rhannu eu straeon hwythau efo mi.
‘Roedd ymateb y plant yn galonogol iawn ymhob ysgol, a’u hafiaeth yn heintus; roeddwn weithiau yn mwynhau cymaint yr oeddwn i a’r plant yn anghofio ei bod yn amser chwarae / amser cinio! Bydd ambell i blentyn yn aros yn fy nghof yn hir iawn – y bachgen bach yn Ysgol Pennant oedd bron iawn ar f y nglin bob cynnig oherwydd ei fod eisiau bod mor agos a phosibl i’r stori, y plant cyfrwng Saesneg yn ysgol Llanfair Caereinion oedd ychydig bach yn amharod i ymateb ar y dechrau ond erbyn y diwedd yn dweud ‘Thank you – that was cool’; grwp o fechgyn Llanfyllin yn creu dawns wirioneddol wych ar gyfer golygfa gwledd yng Nghantref Gwaelod; gwen lydan ambell i blentyn bach swil wrth iddynt deimlo tannau’r delyn am y tro cyntaf. Profiadau pleserus.
Cefais groeso cynnes iawn ymhobman; ni theimlais fel dieithryn yn unman. Diolch yn fawr i’r ysgolion i gyd ac i Gyswllt Celf Powys am y cyfle. Byddai’n braf iawn cael cyd-weithio eto yn y dyfodol.
Exhibition
Posted: 23 Ebrill 2007
Arts Connection have organised an exhibition for 28th April in the Youth & Community Centre, Llanfyllin from 11am-4pm. The work being exhibited is the culmination of a variety of arts projects that happened with a wide range of organsations based in Llanfyllin.
Charity Status
Posted: 11 Ionawr 2007
Arts Connection is currently considering becoming a Charity. This decision will be made by the 30th January which will bring Arts Connection into a new phase and an exciting future.



