Prosiectau
Bydd Cyswllt Celf yn cynnal tri phrosiect craidd ar raddfa fawr bob blwyddyn, ynghyd â nifer o brosiectau llai neu brosiectau unigol. Mae'r prosiectau hyn yn cael eu datblygu'n barhaus ar sail monitro a gwerthuso trylwyr.
Gallwch ddarllen adroddiadau ar ein prosiectau mwyaf diweddar trwy glicio ar un o'r cysylltau yn y rhestr ar ochr chwith y dudalen hon.
Cysylltwch â ni os gennych syniad am brosiect neu gais am weithgaredd celfyddydol yr hoffech ei weld yn digwydd yn eich cymuned.
Dathlu Doniau Creadigol Plant ~ yn cynnig cyfle i grwpiau o blant mewn ysgolion cynradd ledled Gogledd Powys i weithio gydag artist proffesiynol mewn nifer o sesiynau, am bris gostyngedig a chan ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau cyffrous. Mae'r prosiect hwn yn darparu oddeutu 3000 o leoedd i blant gymryd rhan bob blwyddyn.
Prosiect Cerddoriaeth Ieuenctid Powys ~ yn creu cyfleoedd i bobl ifanc ledled Gogledd Powys weithio gyda cherddorion proffesiynol mewn amrywiaeth o arddulliau gan ddefnyddio amrywiaeth o offerynnau y byddwn ni'n eu darparu. Mae’r prosiect yn gorffen gyda digwyddiad terfynol mewn theatr yng Ngogledd Powys, lle bydd pobl ifanc o'r holl ganolfannau sy'n cymryd rhan yn dod at ei gilydd i rannu'u creadigaethau cerddorol. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaeth Ieuenctid Powys ar y prosiect hwn.
Strafagansa Celf ~ yn cynnig gweithdai celfyddydau gweledol, cerddoriaeth, dawns a drama i bobl sydd ag anableddau dysgu. Mae'r gweithdai haf, a leolie yn Llanfyllin, yn gorffen gyda dathliad o flaen gwahoddedigion. Mae'r Strafagansa Celg hefyd yn cael ei gynnal mewn lleoliadau eraill yng Ngogledd Powys yn yr Hydref a'r Gwanwyn.
Yn ogystal â'n prosiectau craidd, mae Cyswllt Celf yn rheolaidd yn trefnu gweithgareddau celfyddydol ar y cyd â:
Cymdeithas Tai Clwyd Alyn ar gyfer Stad Oldford yn Y Trallwng.
Swyddog Datblygu'r Gymuned Cyngor Sir Powys ar gyfer Achlysuron Addysg Oedolion a'r Iaith Gymraeg.
Gwasanaeth Ieuenctid Powys
Rydym hefyd yn cydgysylltu yn ariannu nifer o brosiectau celfyddydol unigol ar gais cymunedau.