Prosiectau Bychan a Ymdop 06
Mae Cyswllt Celf yn rheoli ac yn gweinyddu nifer o brosiectau bob blwyddyn i fudiadau eraill. Rydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth gyda mudiadau cyhoeddus a phreifat ar ystod o weithgareddau, gan gynnwys:
Mae Cyswllt Celf yn rheoli ac yn gweinyddu nifer o brosiectau bob blwyddyn i fudiadau eraill. Rydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth gyda mudiadau cyhoeddus a phreifat ar ystod o weithgareddau, gan gynnwys:
Mae Cyswllt Celf wedi rheoli prosiectau mawr a bach eu maint ar ran mudiadau eraill eleni. Ymysg y rhain mae:
Crëwyd y murlun ar y thema Golau a Lliwiau yn Llanwddyn yn y Gwanwyn, a chyfrannodd yr ysgol a’r gymuned leol at y prosiect. Cyswllt Celf oedd yn gyfrifol am reoli’r prosiect a ariannwyd gan gwmni Dwr Hafren Trent. Sally Duckers oedd arweinydd y gweithdai a hi oedd yn gyfrifol am ddylunio’r murlun.
Cynhyrchwyd y fframiau sgwâr i ymestyn y defnydd sidan ac i greu bocsys golau gan aelodau o Glwb Ieuenctid Llanwddyn. Trefnwyd gweithdai mewn paentio sidan gyda phlant tair oed yn y Cylch Meithrin, babanod a phlant iau ysgol gynradd Llanwddyn ynghyd â dwy sesiwn blasu gyda’r hwyr i oedolion. Y clwb ieuenctid oedd yn gyfrifol am greu trigwaith celf wedi’u hôl-oleuo, gan ddefnyddio arwyddeiriau fel man cychwyn, a defnyddio papurau tryloyw, seloffen a laminiadau. Cynhyrchwyd cyfanswm o naw ffrâm unigol ar y murlun, sy’n arddangosfa unedig ar ôl ei oleuo.
Mae’r murlun yn arddangosfa sefydlog yng nghyntedd Canolfan Gymunedol Llanwddyn.
Digwyddiadau ac Arddangosfeydd Cymraeg Trefnwyd nifer o weithdai a digwyddiadau mewn partneriaeth gydag Adran Addysg Dysgu Gydol Oes a Datblygu Cyngor Sir Powys. Ymysg y rhain oedd:
Rydym hefyd wedi gweithio mewn partneriaethgyda Chymdeithas Adloniant Tanat i ddarparu’r band enwog Cymraeg ‘Frisbee’ ar gyfer pobl ifanc yr ardal.
Bu arddangosfa o waith a grëwyd gan blant Ysgol Gungrog ar y thema ‘symud’ yn Llyfrgell y Trallwng yn ystod mis Mai 2006.
Bu disgyblion Ysgol Uwchradd Llanfyllin yn gyfrifol am lwyfannu dwy arddangosfa o waith blwyddyn 8 ar lawr uchaf y Ganolfan Ieuenctid a Chymuned.
Dangoswyd ffilmiau a grëwyd gydag Ysgol Gynradd Machynlleth yn y ‘Pink Snowball Awards’. Cyrhaeddodd y plant oedd wedi cymryd rhan mewn limwsîn hir, a chawsant groeso arbennig iawn wrth gyrraedd y Tabernacl ym Machynlleth. Cawsant glod mawr am eu gwaith.
Mae llawer o’r gwaith a gynhyrchwyd o fewn ysgolion fel rhan o’r prosiect i Ddathlu Creadigrwydd Plant wedi cael ei arddangos ym mhob un o’r ysgolion dan sylw i’r rhieni a’r llywodraethwyr cael ei weld.
Dysgu i’r teulu trwy gelfyddydau, drymio, dawns, crefftau, ysgrifennu creadigol a sesiynau blasu celf ar ran Cyngor Sir Powys.
Gweithdai Cerddoriaeth ar ran Gwasanaeth Ieuenctid Powys ym Machynlleth a Llanfair Caereinion.
Roedd Prosiect Dawns Cegidfa yn rhedeg ym mis Mawrth a mis Mehefin pan gafodd oedolion a phlant gyfle i gymryd rhan mewn 6 o sesiynau wythnosol i ddarganfod dulliau dawns amrywiol. Bydd y prosiect hwn yn parhau i’r flwyddyn nesaf.
Diwrnod o weithgareddau celfyddydol amgylcheddol i ysgolion oedd yn dod i Wyl Gregynog gyda’r artist Hilary Roberts yn cynnal gweithdy ar Gelfyddydau Gweledol.
Prosiectau Celf i Wasanaeth Ieuenctid Powys yn Llanfyllin.
Daeth Syrcas Circus i Lanfyllin i gynhyrchu prosiect cymunedol i godi ymwybyddiaeth ynghylch materion amgylcheddol trwy sgiliau syrcas a’r celfyddydau perfformio. Ariannwyd y prosiect hwn gan Gyswllt Celf ac Amgylchedd Cymru, a derbyniwyd cefnogaeth hefyd gan Gyngor Sir Powys.
Rhedodd y prosiect rhwng mis Chwefror ac Ebrill, a chynhaliwyd gweithdai bob yn ail benwythnos oedd yn cynnwys sgiliau syrcas, symud, cerddoriaeth, cynllunio a pherfformio. Roedd y prosiect yn agored i bobl o bob oed a bob gallu, a byddai o leiaf 20 o bobl ym mhob gweithdy, dan arweiniad tîm o 3 o unigolion proffesiynol. Yn ystod y gweithdai hyn, roedd y cyfranogwyr yn dysgu symud ar y trapîs, stilts, diabolo, ac acrobatig a llawer mwy. Yn sgil y pum niwrnod o weithdai, cynhaliwyd perfformiad yn ystod wythnos gyntaf Gwyliau’r Pasg. Hefyd aeth y cyfranogwyr o gwmpas yn casglu sbwriel o safle’r Babell Fawr er mwyn gallu defnyddio’r sbwriel a gasglwyd yn ystod eu perfformiad; hefyd aethant ar orymdaith trwy dref Llanfyllin cyn y perfformiad i bobl cael blas ar eu sgiliau. Roedd y babell lle cynhaliwyd y perfformiad dan ei sang, a’r gynulleidfa wedi mwynhau’r perfformiad yn fawr.
Roedd pawb oedd wedi bod yn rhan o’r prosiect yn teimlo eu bod ar eu hennill o gymryd rhan yn y gweithdai, a gwelwyd hyn yn y ffaith fod pob un o’r cyfranogwyr craidd wedi mynychu pob un gweithdy, hyd yn oed pan oedd troedfedd o eira ar y llawr! Rhoddodd y prosiect gyfle i’r rhai oedd yn rhan ohono i gael hwyl, cynyddu eu hyder, dysgu sgiliau newydd, creu amgylchfyd cymdeithasol, a llwyddodd hefyd i ddod ag aelodau gwahanol o’r gymuned at ei gilydd mewn gweithgaredd creadigol.
Bu 5 o d disgyblion o Ysgol Uwchradd Llanfyllin, yn cymryd rhan yn y prosiect hwn, a phob un ohonynt yn perthyn i’r categori pobl ifanc mewn perygl. Bu’r grwp yn gweithio gyda’i gilydd dros gyfnod o 6 mis a’r man cychwyn oedd cyfarwyddo gyda’r offer fyddai ei angen i greu ffilm fer, megis gweithdai camera i allu trin y camera’n hyderus, a theimlo’n gyfforddus o flaen y camera. Aethant i ymweld â Gwyl Ffilm KINO, lle cafwyd cyfle i wrando ar gyflwyniadau gan weithwyr proffesiynol yn y maes. Crëwyd cwmni cynhyrchu gan y grwp, dan yr enw ‘Last Chance Productions’ a dyluniwyd logo ar gyfer eu papur pennawd ac i’w ddefnyddio ar ôl creu’r cynhyrchiad. Cynhaliwyd cyfweliadau gyda myfyrwyr ac athrawon ynghylch eu sylwadau ar ystod o faterion yn ymwneud â’r ysgol, ac arweiniodd hyn at raglen ddogfen gyda’r enw ‘Have We Got Views For You’.
O ystyried nad oedd gan unrhyw aelod o’r grwp unrhyw brofiad blaenorol o drin offer ffilmio, dangoswyd lefel sgiliau gwych ganddynt. Trwy gydol y prosiect, llwyddwyd i ennill hyder a chafwyd cyfle hefyd i reoli’r prosiect. Roedd eu gwaith hefyd yn cyfrannu at Wobr Dug Caeredin. Arweinyddion y gweithdai oedd Ruth Carter a Tony Wainwright gyda chymorth gan weithiwr ieuenctid Llanfyllin, Dux.
Ariannwyd y prosiect gan y Gronfa Loteri Fawr a chronfa Cyfle Cyngor Sir Powys trwy Gyswllt Celf.