Prosiectau Bychan a Ymdop 2008

Mae Cyswllt Celf yn rheoli ac yn gweinyddu nifer o brosiectau bob blwyddyn i fudiadau eraill. Rydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth gyda mudiadau cyhoeddus a phreifat ar ystod o weithgareddau, gan gynnwys:

Gwyl Ffilm Ffilmic

Cynhaliwyd yr Gwyl Ffilm Ffilmic gyntaf erioed yn Theatr y Llwyn Llanfyllin ym mis Hydref 2007. Y cysyniad oedd dathlu diwylliant delweddau symudol, ac roedd amrediad o ffilmiau nodwedd, ffilmiau byrion, gweithdai a chyflwyniadau gan weithwyr proffesiynol yn y diwydiant ffilm ar gael. Bu plant a phobl ifanc yn cymryd rhan mewn gweithdai stop-ffrâm ac animeiddio. Yn ystod yr wythnos cyn yr wyl, bu disgyblion Ysgolion Cynradd ac Uwchradd Llanfyllin yn cymryd rhan mewn gweithdai ar lythrennedd ffilm a dweud straeon digidol.

Un o uchafbwyntiau’r penwythnos oedd dangos y ffilmiau oedd wedi cystadlu yn yr Her Ffilm Pum Diwrnod. Dim ond pum diwrnod oedd gan y cystadleuwyr i wneud ffilm pum munud o hyd. Roedd Theatr y Llwyn dan ei sang, a’r dorf yn dangos eu gwerthfawrogiad o’r rhai fu’n cystadlu. Cyflwynwyd y gwobrwyon gan Anthony Rosser, rheolwr cyffredinol Gwesty Llyn Efyrnwy, oedd wedi noddi’r gystadleuaeth, a nododd fod safon uchel y ffilmiau wedi’i blesio’n arw.

Ariannwyd Ffilmic gan Asiantaeth Ffilm Cymru gyda chefnogaeth gan Westy Llyn Efyrnwy a Gwesty’r Cain Llanfyllin, Cymdeithas Ffilm y Dyffrynnoedd a Siop Spar Llanfyllin.

Ewch i: www.ffilmic.co.uk am fwy o wybodaeth.

First Light Movies

Trwy gefnogaeth ariannol gan First Light Movies, roeddem yn gallu gweithio gyda 13 o bobl ifanc o Lanfyllin a’r ardal gyfagos i gynhyrchu ffilm 8 munud.

Bu’r prosiect yn rhedeg rhwng Ebrill a Mehefin 2008, pan fyddai’r grwp yn cwrdd bob wythnos gyda’r mentor ffilm Ruth Carter. Cawsant gyfle i ddysgu am y broses o wneud ffilmiau, o’r syniad cychwynnol i’r ffilm derfynol. Y man cychwyn oedd chwedlau lleol, a chrëwyd eu stori eu hunain yn seiliedig ar y Gweithdy yn Llanfyllin yn y 1800au. Lluniwyd sgript, daethpwyd o hyd i bropiau a gwisgoedd, dewiswyd lleoliadau, cynhaliwyd gweithdy recordio sain gyda Jacqui Bellamy, gweithdy drama gyda Sharon Calder, a gweithdy camera yng nghwmni Ruth Carter. Bu’r bobl ifanc yn gweithio yn yr un modd ag unrhyw griw ffilm, yn gweithredu naill ai fel aelodau’r cast neu griw, a thrwy hynny’n cael cyfle i fod yn rhan annatod o gynhyrchu’r ffilm. Treuliwyd 4 diwrnod ar leoliad o fewn tref Llanfyllin ac yn yr ardal gyfagos. Bu Greg Hall, awdur / cyfarwyddwr yn gyfrifol am weithdy cyfarwyddo, ac am eu cefnogi wrth sefydlu’r lleoliadau i’w ffilmio.

Dangoswyd y ffilm orffenedig, gyda’r teitl ‘Spirit of the Hollow Tree’ yn Theatr y Llwyn i gynulleidfa fawr o rieni, ffrindiau, athrawon a chynrychiolwyr mudiadau lleol oedd yn dangos eu gwerthfawrogiad o’r gwaith a wnaethpwyd.

ASIANTAETH YR AMGLUCHEDD CYMRYU - PROSIECT EOGIAID

Ar ddechrau 2008 cytunwyd i ofalu am lond tanc o wyau eogiaid fel rhan o gynllun Afon Cain, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru er mwyn codi ymwybyddiaeth ynghylch llygredd dwr gwasgaredig. Yn ogystal â galluogi’r gymuned i wylio’r wyau’n deor a’u gweld yn datblygu, trefnwyd prosiect celf mewn partneriaeth gydag Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru.

Aeth Ingrid Maugham i ymweld ag Ysgol Llanfechain, lle dysgodd y plant am gylch bywyd eogiaid, a chawsant gyfle i addurno eog pren gan ddangos manylder anhygoel, a llwyddo i greu deilliannau artistig gwych. Roedd yr eogiaid gorffenedig yn rhan o arddangosfa tu allan i’r Ganolfan Ieuenctid a Chymuned, cyn bod yn rhan o orymdaith trwy dref Llanfyllin gan y 40 o blant oedd wedi cyfrannu. Ar Faes Sioe Llanfyllin, rhoddwyd cyfle i bob plentyn ryddhau’r eogiaid o’r tanc i’r afon. Cafodd y prosiect llawer o gyhoeddusrwydd trwy Gymru gyfan.

Gwyliwch Ffilm am Eog yma.

DYDDIAU CELF I’R TEULU

Cafwyd llawer o hwyl gan deuluoedd yn ystod hanner tymor mis Chwefror 2008, wrth gymryd rhan mewn gweithdy argraffu stensiliau yng ngofal Ingrid Maugham, pan gawsant gyfle i ddylunio eu delweddau eu hunain a chreu lluniau penigamp. Roedd cyfle hefyd i gymryd rhan mewn gweithdy dawns a drama gyda Sally Russell a Sharon Calder. Cafwyd hwyl aruthrol yn gwneud masgiau a gwisgoedd i actio hanes Gwrtheyrn a’r Ddraig.

Caryl Parry Jones

Roedd yn bleser gweithio mewn partneriaeth gyda’r Gymdeithas Gymraeg a Merched y Wawr i groesawu Caryl Parry Jones, Bardd Plant Cymru 2007, i dref Llanfyllin.

Cafodd Caryl ddiwrnod llawn gweithgareddau wrth iddi ymweld ag Ysgol Gynradd Llanfyllin lle cafodd y plant llawer o hwyl a sbri’n chwerthin ar y cerddi a greodd trwy ddefnyddio eu henwau. Yn y prynhawn aeth i Ysgol Uwchradd Llanfyllin, lle bu’n gweithio gyda’r myfyrwyr i lunio limrigau, ac yna gyda’r hwyr, aeth i ddathliadau 40fed pen-blwydd Merched y Wawr, ar y thema rhuddem.

ADRODD STRAEON GYDA MAIR TOMOS IFANS

Diolch i’r arian a godwyd o werthu’r cryno ddisgiau o hwiangerddi gyda’r teitl Jac-y-Do a gynhyrchwyd gyda naw o ysgolion cynradd Gogledd Powys, roeddem yn gallu ariannu ymweliad gan Mair â‘r naw ysgol i gynnal gweithdai adrodd straeon. Roedd Mair yn adrodd straeon traddodiadol yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ar ôl gwrando ar straeon megis Y Delyn Aur, Melangell ac Owain Glyndwr, bu’r plant yn cymryd rhan mewn gweithdai drama’n seiliedig ar yr hanesion, gan bortreadu’r cymeriadau trwy symudiadau. Wedyn perfformiwyd hyn o flaen disgyblion eraill yr ysgol. Bu’r plant hefyd yn canu caneuon, gyda Mair yn cyfeilio ar y delyn.

Aeth Mair hefyd i Ysgol Oldford i gynnal gweithdai adrodd straeon trwy gerddoriaeth, a ariannwyd gan Gronfa Gerdd Cymunedau yn Gyntaf.

Proseictau a Reolwyd

GWASANAETH IEUENCTID POWYS

Eleni, rydym wedi rheoli ystod eang o brosiectau yng Nghanolfannau Ieuenctid Gogledd Powys, sef Machynlleth, Llanfair, Llanfyllin, Y Drenewydd, Llanidloes, Trallwng. Rydym wedi trefnu gweithdai mewn graffiti, argraffu crysau-T, drama, bol-ddawnsio, dawnsio stryd, pypedau cysgod, drymio Affricanaidd, ac rydym hefyd wedi cyfrannu at greu DVD ar Barc Sgrialu Y Trallwng.

Cefnogwyd Gwyl Ieuenctid Gwasanaeth Ieuenctid CS Powys ym mis Tachwedd 2007. Daeth 150 o bobl ifanc ynghyd ar y diwrnod, a buont yn cydweithio i gynhyrchu byrddau graffiti ar themâu amrywiol yng nghwmni Tony Wainwright a Tish Evans. Cawsant hefyd gyfle i ddysgu sut i drawsosod eu syniadau creadigol i sidan mewn gweithdy cychwynnol ar baentio ar sidan dan ofal Sally Duckers. Roedd y canlyniadau’n hardd dros ben, a’r cyfranogwyr yn falch iawn o’r hyn a gyflawnwyd.

CYMUNEDAU YN GYNTAF

Darparwyd gweithdai celf ar gyfer Diwrnod Cymunedol Oldford a Diwrnod o Hwyl Oldford. Bu cyfranogwyr yn mwynhau sesiynau mosaig, gwneud offerynnau cerdd o jync, sgiliau syrcas, dweud straeon, dawnsio stryd, gwneud gemwaith a gwaith metel.

CYSTADLEUAETH FFOTOGRAFFIAETH

Bu Cyswllt Celf yn cefnogi’r Gymdeithas Ddinesig ac Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru gyda’r gystadleuaeth ffotograffiaeth, a bu nifer fawr o bobl sy’n byw yn Nyffryn Cain yn cystadlu. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn gobeithio cyhoeddi’r ffotograffau mewn calendr ar gyfer y Flwyddyn Newydd.

CYFRIFIAD IEUENCTID

Cymerodd 213 o ddisgyblion Ysgol Uwchradd Llanfyllin ran mewn Cyfrifiad Ieuenctid ym mis Mehefin 2008. Gofynnwyd cyfres o gwestiynau dewis lluosog iddynt ar bynciau amrywiol. Roeddynt yn pleidleisio trwy ddefnyddio pad electronig oedd yn golygu fod y cyfrifiad yn ddienw, yn rhyngweithiol ac yn hwyl.

Arweinydd y prosiect oedd Tom Cavalot, ac roedd yn ei gynnal fel rhan o’i radd MA mewn Astudiaethau Ieuenctid a Chymuned. Fe’i ariannwyd gan y Gronfa Gweithredu dros Gymunedau Gwledig, ac fe’i gefnogwyd gan NEWI Wrecsam, Dux o Wasanaeth Ieuenctid Powys a Chyswllt Celf. Gellir lawrlwytho’r adroddiad cyflawn o’n gwefan. The full report can be downloaded here.

CERDDORIAETH GYMREIG

Bu Penri Roberts a Roy Griffiths yn cynnal gweithgareddau’n seiliedig ar gerddoriaeth Gymreig yn Llanidloes, Y Foel, Llanfyllin a’r Trallwng.

Photos

Environment Agency - Salmon Project

Salmon

Communities First

Fun Day

Communities First

Jewellery Making

Caryl Parry Jones

Writer

Family Arts Days

Dance with Sally Russell

Environment Agency - Salmon Project

Salmon Painting with Ingrid Maugham

Environment Agency - Salmon Project

Salmon

Family Arts Days

Print

Family Arts Days

Drama with Sharon Calder

Family Arts Days

Printing with Ingird Maugham

Family Arts Days

Printing with Ingird Maugham

Ffilmic

Talk with Lee Kern

Ffilmic

Animation Workshop

Ffilmic

Digital Eyes

Ffilmic

Workshop with Sally Duckers

First Light - Spirit of the Hollow Tree

Filming

First Light - Spirit of the Hollow Tree

with Greg Hall

First Light - Spirit of the Hollow Tree

On Set

First Light - Spirit of the Hollow Tree

Premiere

Youth Census

Youth Census Brochure Cover

Youth Census

In the Classroom

Oldford School

Storytelling and music with Mair Tomos Ifans

Photography Competition

Photo by Ron Kyte

Photography Competition

Photo by Pieter Nielson

Caryl Parry Jones

with Merched y Wawr

Welshpool Youth Centre

Welshpool Skate Crew

Welshpool Youth Centre

Welshpool Skate Crew Filming

Welshpool Youth Centre

Graffiti Workshop

Powys Youth Service Festival

Graffiti Workshop

Powys Youth Service Festival

Graffiti Board

Powys Youth Service Festival

Graffiti Board 2