Dathlu Creadigrwydd Plant 05
Daeth dros 2,100 o gyfranogwyr o ysgolion cynradd ar hyd a lled Gogledd Powys eleni. Roedd y cyfryngau a ddefnyddiwyd i gynhyrchu ystod eang o waith celf a chrefft mor amrywiol ag erioed - gwaith gwiail a phapur sidan, animeiddio, gwneud mainc, paentio portread a gwaith mosäig oedd rhai o'r dewisiadau poblogaidd eleni. Derbyniwyd nifer o sylwadau positif oddi wrth ysgolion yn eu hadroddiadau gwerthuso megis 'Roedd yr artist yn wych - dysgodd y plant gymaint, ac roeddynt wedi mwynhau'r sesiynau'n fawr iawn'. Erbyn hyn, mae'r gofyn am y prosiect yn llawer uwch na'r hyn y gallwn ei ddarparu.



