Dathlu Creadigrwydd Plant 2006

Prosiect Dathlu Creadigrwydd Plant yw un o brosiectau craidd Cyswllt Celf. Mae’n cynnig ystod amrywiol ac arbenigol o weithgareddau celf a chrefft i blant rhwng 4 a 11 oed.

Hyd yn hyn eleni, mae’r prosiect wedi gwasanaethu 20 o ysgolion yng Ngogledd Powys, gan gynnig dros 2,400 o lefydd i gyfranogwyr. Defnyddiwyd cyfryngau amrywiol fel arfer i gynhyrchu’r gwaith, a chynhyrchwyd ystod eang o weithiau celf a chrefftau. Ymysg y prosiectau roedd: Band Pres Jaipur Kawa, gwaith metel, adeiladu tai 3-D, gwaith animeiddio, paentio tirluniau, gwneud eitemau o helyg, gwaith mosaig, gwaith batik a llawer mwy. Roedd gofyn mawr am y prosiect, ac fe’i dderbyniwyd yn dda yn yr ysgolion.

Hefyd eleni, mae’r prosiect wedi creu CD gydag 38 o Hwiangerddi Cymraeg o’r enw ‘Jac y Do’ – disgyblion o 9 ysgol wahanol yn yr ardal oedd yn canu’r hwiangerddi - Dyffryn Banw, Llanfihangel, Llanfair Caereinion, Llanerfyl, Llanfyllin, Llanrhaeadr, Pontrobert, Pennant and Llanwddyn. a’r rheolwr oedd Arfon Gwilym.

Grwp o sipsiwn Rajasthani o Jaipur yng Ngogledd India yw Band Press Jaipur Kawa. Mae’r band yn cynnwys 8 o gerddorion, fakir a’r ddawnswraig Sapera Kalbelya. Hameed Khan Kawa yw sylfaenydd y grwp, a rhoddwyd perfformiad i blant Ysgol Gynradd Llanfyllin – gwirionwyd y plant gan y perfformiad.

Sylwadau

“Hir oes i Gyswllt Celf, oherwydd mae’r profiadau hyn yn hynod werthfawr i blant sy’n byw mewn ardal mor wledig”

Ysgol Efyrnwy

“Mae’r plant wedi mwynhau’r prosiect yn fawr”

Ysgol Berriew

“Cynhyrchwyd gwaith gwych, a chafodd y disgyblion lawer o hwyl”

Ysgol Meifod

“Mae’r disgyblion ar eu hennill o weithio gydag artist proffesiynol, felly daliwch ati efo’r gwaith da”

Ysgol Llanfihangel

“Roedd lefel y gefnogaeth a’r gwirfoddolwyr yn wych”

Laura Hughes

“Cymorth a chefnogaeth wych. Roedd yn brosiect uchelgeisiol…ond rhoddodd yr ysgol cymorth ac amser ychwanegol i’m helpu ac roedd hyn yn golygu fod y prosiect yn llwyddiant ysgubol.”

Hilary Roberts

“Dysgodd y plant technegau artistig newydd - cyflwynwyd agwedd ymchwil mewn hanes a defnyddiwyd mathemateg yn ein cymwysiadau. Roedd y canlyniadau’n lliwgar iawn, ac mae’r ysgol yn hapus iawn”

Sally Duckers

Delweddau

Ingird Maugham

Ardwyn Dragon

Hilary Roebrts

Corridor Mural

Ingrid Maugham

Gungrog Exhibition

Ingrid Maugham

Gungrog Movement

Ingrid Maugham

Tissue Sculptures

Jai Pur Kawa Band

Music at Llanfyllin Primary School

Stan Jankowski

Llangedwyn Clock

Stan Jankowski

Emblem

Hilary Roberts

Meifod Papier Mache Houses

Hilary Roberts

Papier Mache

Hilary Roberts

Clay

Hilary Roberts

Hedd Wyn

Ingrid Maugham

Trefnanney