Dathlu Creadigrwydd Plant 2007

Prosiect Dathlu Creadigrwydd Plant yw un o brosiectau craidd Cyswllt Celf. Mae’n cynnig ystod amrywiol ac arbenigol o weithgareddau celf a chrefft i blant rhwng 4 a 11 oed.

Mae prosiect Dathlu Creadigrwydd Plant wedi bod ar y gweill ers 9 mlynedd, a hwn yw un o’n prosiectau mwyaf amrywiol. Bob blwyddyn byddwn yn gweithio gyda 35 – 40 o grwpiau ysgolion cynradd, gan ddarparu rhyw 2,500 o leoedd i gyfranogwyr mewn ystod eang o weithgareddau celf.

Roedd cyfryngau’r prosiect eleni mor amrywiol ag erioed, ac yn llwyddiannus iawn. Cafodd Ysgol Gynradd Llanfyllin sesiwn gyda Baka Beyond, ar gerddoriaeth y goedwig law; trwy Caliche, dysgodd plant Ysgol Gynradd Machynlleth am rythmau Lladinaidd; cynhyrchwyd offeryn tiwbglychau yn Ysgol Gynradd Tre’r Llai gyda Stan Jankowski; ac yn Ysgol Gynradd Llanfyllin, dysgodd y plant am wneud Ffelt a phrosesau cysylltiedig gydag Edna Griffiths; bu plant Ysgol Gynradd Oldford yn gwneud cerfluniau clai yng nghwmni Ingrid Maugham, ac yn Ysgol Gynradd Pontrobert, Dawns oedd y testun gyda Sally Russell; Cerddi ffilm ar y testun ‘Fu hoff beth’ oedd cynnyrch Ysgol Gynradd Ffordun yn dilyn sesiwn gyda Ruth Carter. Dim ond rhagflas yw hyn oll o’r hyn sydd wedi digwydd hyd yn hyn eleni.

Aeth plant y 9 ysgol gynradd oedd wedi cyfrannu at wneud CD Jac-y-Do i lansiad o’r CD ym mis Tachwedd, ac o ganlyniad, cawsant wahoddiad i ymweld â Chynulliad Cenedlaethol Cymru ar 30ain Ionawr 2007. Aeth pedwar bws a 120 o blant lawr i’r Senedd, a bu’r plant yn perfformio detholiad o’r caneuon i Weinidogion y Cynulliad ac i’r cyhoedd.

Sylwadau

“Cefais gefnogaeth dda – rydyn ni’n gweithio fel tîm; allen nhw ddim fod wedi bod yn fwy parod eu cymwynas”

“Mae gennym ni arddangosfa hyfryd yng nghyntedd yr ysgol, wedi’i seilio ar flodau o ffelt”

Delweddau

Ruth Carter

Forden Film Poems

Stan Jankowski

Music Instrument

Baka Beyond

Music at Llanfyllin Primary School

Stan Jankowski

Metals

Caliche

Music at Machynlleth

Ingrid Maugham

Clay at Oldford

Ingrid Maugham

Clay at Oldford