Dathlu Creadigrwydd Plant 2008
Eleni, mae’r Prosiect Dathlu Creadigrwydd Plant wedi dathlu 10 mlynedd ar waith o fewn Ysgolion Gogledd Powys. Rydym wedi gweithio gyda 20 o ysgolion cynradd trwy Ogledd Powys, gan roi cyfle i 1,800 o blant gymryd rhan mewn amrediad o gyfryngau celfyddydol.
Ymysg rhai o’r prosiectau eleni mae plant Llanerfyl wedi creu cerfluniau 3D anhygoel o bryfed ac anifeiliaid allan o wiail a phapur sidan yng nghwmni Hilary Roberts. Cafodd plant Ysgol Trefnanney hwyl ar gydweithio i greu draig o gopr gyda Stan Jankowski i’w arddangos yn eu dosbarth. Dysgodd plant Ysgol Llangedwyn am greu lluniau a thirluniau trwy ddefnyddio ffelt gyda Hilary Roberts. Dan arweiniad Ingrid Maugham bu plant Ysgol Aberriw yn ail-adrodd chwedlau trwy luniau gludwaith. Aeth Hilary Roberts i Ysgol Pennant lle crëwyd croglun hyfryd o decstilau, ac enillodd y gwaith y wobr gyntaf yn Eisteddfod yr Urdd; aeth hi hefyd i Ysgol Meifod lle dysgodd y plant am glai a sut i wneud eu potiau eu hunain. Yn Ysgol Cegidfa, cafwyd cyfle i wneud golygfeydd amrywiol gyda chefnlenni a chymeriadau allan o ‘mudroc’ gyda Hilary Roberts. Cyfle i wneud gemwaith enamlog cafodd plant Ysgol Efyrnwy - a hynny dan arweiniad Graham Roberts, tra cafodd plant Ysgol Banw cyfle i gyfrannu at gloc sydd i’w weld yn yr ysgol, gyda chymorth Stan Jankowski.
Oherwydd llwyddiant y prosiect, rydym wedi llwyddo i gael mwy o gymorth ariannol trwy gynllun Ysgolion Bro Cyngor Sir Powys, sy’n golygu ein bod yn gallu cynnig prosiectau celf cyfranogol i holl ysgolion Gogledd Powys yn ystod 2008 -2009.



