Prosiect Cerdd Ieuenctid Powys 2005
Roedd prosiect eleni yn cynnwys pedwar sesiwn o weithdai gyda'r hwyr a diwrnod o ddosbarth meistr yn Llanfyllin, Y Drenewydd, Llanidloes, Y Trallwng, Llanfair Caereinion a Machynlleth. Daeth cyfranogwyr y gweithdai gyda'r hwyr at ei gilydd ar gyfer y 'Twrw Taro', diwrnod olaf o weithdai yn Theatr Clera ym mis Tachwedd. Yn ystod y noson, daeth rhai o fandiau'r dosbarth meistr atynt, a chafwyd perfformiad pleserus iawn o waith a grëwyd yn ystod y prosiect. Roedd tua 130 o bobl yn y gynulleidfa - a derbyniwyd nifer o sylwadau positif ganddynt ynghylch cyraeddiadau'r cyfranogwyr yn ein llyfr ymwelwyr.
Hon yw 7fed blwyddyn y prosiect. Mae nifer o fandiau ifanc wedi'u sefydlu erbyn hyn ar ôl cymryd rhan yn y gweithdai gyda'r hwyr neu yn y dosbarthiadau meistr. Mae rhai wedi recordio eu gwaith, ac mae amryw ohonynt wedi perfformio mewn gwyliau neu ddigwyddiadau mawr a bach. Eleni, cynhyrchwyd CD gan 'Serotonin' oedd wedi cwrdd mewn un o'n digwyddiadau ni, ac mae'r ddisg wedi derbyn clod gan feirniaid y byd cerddorol yng Nghymru.
Hoffem gydnabod mewnbwn ein prif gerddorion a chynorthwywyr, yn enwedig ar y diwrnod olaf, ynghyd â chyfraniad gweithwyr ieuenctid Gwasanaeth Ieuenctid Powys, sy'n gofalu fod y prosiect yn cael ei dargedu'n effeithiol, ac am gynorthwyo gyda'r gweithdai trwy gydol y prosiect.



