Prosiect Cerdd Ieuenctid Powys 06
Mae Prosiect Cerdd Ieuenctid Powys yn galluogi pobl ifanc, na fyddent fel arall yn cael mynediad i offer a gwersi proffesiynol, greu a pherfformio cerddoriaeth. Bydd llawer sy’n ddechreuwyr ar y prosiect hwn, yn mynd ymlaen i sefydlu bandiau neu ddatblygu sgiliau offerynnol neu leisiol. Rydym hefyd yn cynnig dosbarthiadau meistr a chyfleoedd recordio i fandiau sydd eisoes yn bodoli. Eleni, mae bandiau sydd wedi cymryd rhan yn y prosiect hwn, wedi perfformio yng Ngwyl y Gweithdy a’r Wyl Roc a Phop Cenedlaethol i Bobl Ifanc yn yr NEC, Birmingham.
Cynhaliwyd gweithdai yn y Drenewydd, Llanfyllin, Machynlleth, Llanidloes, Y Trallwng a Llanfair Caereinion – hwyluswyr y sesiynau hyn oedd Tommy Mills, Laurance Sharp, Tony Skeggs, Tony McCallum a Jock Tildesley.
Trefnwyd diwrnod terfynol o weithdai a pherfformiadau oedd yn cynnwys cyfranogwyr o bob un o’r canolfannau a nodwyd uchod yn Theatr Llwyn, Llanfyllin.



