Prosiect Cerdd Ieuenctid Powys 2008
Mae Prosiect Cerdd Ieuenctid Powys yn rhedeg ers deng mlynedd ac mae’n galluogi pobl ifanc, fyddai fel arall ddim yn cael mynediad i offer cerddorol a cherddorion proffesiynol, i greu eu caneuon eu hunain. Mae’r prosiect yn cael ei dargedu trwy ganolfannau Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Sir Powys ar hyd a lled Gogledd Powys ac mae’n rhoi cyfle i bobl ifanc naill ai arbrofi gydag offeryn am y tro cyntaf, neu os maent yn canu offeryn yn barod, mae’n gyfle i ddatblygu sgiliau sydd ganddynt eisoes. Mae hefyd yn gyfle iddynt weithio fel rhan o dîm, ac i gydweithio ar greu rhywbeth i’w berfformio mewn cyngerdd efallai neu i’w recordio.
Eleni eto, rhoddwyd cefnogaeth i Ysgol Dafydd Llwyd, pan ddaeth Tommy Mills i helpu’r plant i lunio cân Gymraeg, a recordiwyd gan Tony Skeggs. Am yr ail flwyddyn yn olynol, aethant ymlaen i ennill y gystadleuaeth am fandiau yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Bu Roxane Smith yn gweithio gyda grwp o ferched ifanc o ardal Machynlleth i gynhyrchu CD 3 trac. Aeth Mark Burnett i Ganolfan Ieuenctid Y Trallwng i ddangos i bobl ifanc sut i ddefnyddio deciau a sut i greu cerddoriaeth ddigidol. Mae grwpiau eraill wedi sefydlu bandiau ac wedi perfformio mewn gig am y tro cyntaf, megis y bobl ifanc o Lanfair Caereinion.



