Prosiectau Bychain a Ymdop 2009
Mae Cyswllt Celf yn rheoli ac yn gweinyddu nifer o brosiectau bob blwyddyn i fudiadau eraill. Rydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth gyda mudiadau cyhoeddus a phreifat ar ystod o weithgareddau, gan gynnwys:
Mae Cyswllt Celf yn rheoli ac yn gweinyddu nifer o brosiectau bob blwyddyn i fudiadau eraill. Rydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth gyda mudiadau cyhoeddus a phreifat ar ystod o weithgareddau, gan gynnwys:
Cynhaliwyd yr ail Ŵyl Ffilmic yn Theatr Llywn, Llanfyllin ddiwedd mis Hydref 2008.
Dangoswyd ystod eclectig o ffilmiau nodwedd, ffilmiau byrion a ffilmiau fideo o bedwar ban byd dros gyfnod o ddau ddiwrnod. Un o’r uchafbwyntiau oedd ‘The Cameraman’ - ffilm fud gan Buster Keaton. Cyn gweld y ffilm rhoddodd Paul Shallcross gyflwyniad ynghylch cynhyrchu ffilmiau yn gynnar yn y 20fed ganrif, ac yna rhoddodd berfformiad o’i gyfansoddiad piano ei hunan i gyd fynd â’r ffilm oedd yn parhau am 70 munud! Yn ôl y bobl yn y gynulleidfa, hwn oedd un o’u profiadau gorau erioed mewn perthynas â’r sinema. Ymysg yr uchafbwyntiau eraill roedd gweld ‘Persepolis’ a’r ffilmiau o’r Her Ffilm Deg Diwrnod. Roedd cystadleuwyr o bob oed a gallu wedi derbyn celficyn, llinell o ddeialog a genre ac yna deg diwrnod i gynhyrchu’r ffilm. Roedd y neuadd yn llawn i wylio’r ffilmiau hyn, a chafwyd llawer o chwerthin a chefnogaeth i gynhyrchwyr y ffilmiau. Cyflwynwyd y gwobrwyon gan Jennie Castle, Maer Tref Llanfyllin, i bob ymgeisydd i wobrwyo eu gallu arloesol a chreadigol. Noddwyr caredig y gwobrwyon oedd Gwesty Llyn Efyrnwy. Yn ystod y penwythnos, rhoddwyd cyflwyniadau gan Pete Telfer ar Y Wladfa Newydd a gan Richard O’Sullivan, artist fideo sy’n gweithio o Gymru, oedd yn bresennol i drafod ei waith.
Cafodd plant a phobl ifanc gyfle i greu ffilm pypedau cysgod. Treuliwyd y diwrnod yn gwneud pypedau cysgod, a chreu stori a berfformiwyd ganddyn nhw wedyn er mwyn ei ffilmio. Mae’r gwaith gorffenedig i’w weld ar-lein.
Ariannwyd Ffilmic gan Asiantaeth Ffilm Cymru, gyda chefnogaeth gan Westy Llyn Efyrnwy, Cymdeithas Ffilm y Dyffryn, Siop Spar Llanfyllin a Llysgenhadaeth Estonia.
Ym mis Awst 2009 roedd Cyswllt Celf yn gyd-gyfrifol am gynnal Gŵyl Celfyddydau Ieuenctid Powys gyda CARAD, mudiad celf a threftadaeth o Raeadr Gwy. Mae’r ddau gorff wedi gweithio mewn partneriaeth ers nifer o flynyddoedd. Roedd Celf o Gwmpas hefyd yn rhan o’r bartneriaeth hon. Roeddem yn falch dros ben i dderbyn cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru i gynnal prosiect ar y cyd. Penderfynwyd gweithio mewn partneriaeth gyda Gwasanaeth Ieuenctid Powys er mwyn cynnal Gŵyl Celfyddydau Ieuenctid Powys yn y Pafiliwn yn Llandrindod.
Nod yr ŵyl, oedd yn cynnwys Powys gyfan, oedd sicrhau fod pobl ifanc ledled y sir yn cael mynediad i leoliad creadigol i gael profi cyfryngau celf amrywiol mewn amgylchedd hwylus a phleserus. Ymysg y gweithdai oedd ar gael ar y diwrnod oedd Graffiti, ‘Haiku Twitterings’, Sgiliau Syrcas, Breg-ddawnsio, Troelli, Gwehyddu Helyg, Gwneud Ffelt ac argraffu Crysau-T. Hefyd rhoddwyd cyfle i fandiau a chantorion o Bowys gyfan berfformio ar y llwyfan. Cyn yr ŵyl, bu canolfannau ieuenctid hefyd yn cymryd rhan mewn gweithdai i greu posteri gwrth-fwlio, i greu wisgoedd o ddillad wedi’u hailgylchu, ac ymarferion dawnsio er mwyn cymryd rhan mewn cystadlaethau ar y diwrnod. Buon nhw hefyd yn cymryd rhan mewn gweithdai VJ, gwneud gemwaith ac ysgrifennu creadigol. Defnyddiwyd y posteri gwrth-fwlio i gefnogi lansiad Strategaeth Gwrth-fwlio Powys oedd yn digwydd yr un diwrnod.
Agwedd gyffrous arall ar yr ŵyl oedd y gweithdy sgiliau syrcas a drefnwyd gan NoFit State Circus a chafwyd sioe wych ganddyn nhw i gloi’r diwrnod!
Cynhaliwyd digwyddiadau Cymraeg yn canolbwyntio ar farddoniaeth a cherddoriaeth yng nghwmni Meirion MacIntyre, Twm Morys a Siân James. Trefnwyd y digwyddiadau hyn gan y Clwb ‘C’ gyda chyllid partneriaeth gan Gymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi a Chyswllt Celf.
Y gweithdai oedd ar gael ym Machynlleth oedd: gweithdy ailgylchu dillad ffasiwn gydag Edna Griffiths, a dylunio ac argraffu crysau-T lliwgar gyda Sue Terrey, Lydia Jones a Ruth Jen Evans. Yn y diwrnod hwyl a drefnwyd gan glwb y Rotari ym mis Awst, roedd pobl yn cael cyfle i gymryd rhan mewn gweithdy gwneud ffelt gydag Edna Griffiths a gweithdy dweud straeon gyda Sharon Calder.
Gwnaethom gyfraniad i Ŵyl Golau Dyfi ym mis Tachwedd 2008 trwy drefnu gweithdy gwneud llusernau mewn ysgol leol ym Machynlleth i gefnogi Articulture.
Pleser oedd gweithio mewn partneriaeth gyda Merched y Wawr unwaith eto i sicrhau siaradwr gwadd ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi.
Rhwng Hydref 2008 a Chwefror 2009 bu Ingrid Maugham yn gweithio yn Ysgol Maes-y-Dre, Y Trallwng i greu murlun ym mynedfa’r ysgol. Roedd y prosiect yn cynnwys pobl o’r gymuned leol yn ogystal ag ysgolion Oldford, Ardwyn a Gungrog wrth greu’r themâu a’r syniadau ar gyfer y murlun. Bu’r artist yn gweithio gyda disgyblion Ysgol Maes-y-Dre i greu’r gwaith gorffenedig. Roedd hwn yn brosiect partneriaeth gyda’r Ysgolion Bro.
Roeddem yn rhan o’r broses o gomisiynu dau ddarn o waith celf ar gyfer y Ganolfan Addysg newydd ôl-16 ym Machynlleth. Roedd y cyntaf gyda Pippa Taylor, cerflunydd o Fachynlleth oedd yn arwain gweithdai cerfio coed gyda grwpiau cymunedol lleol, y clwb ieuenctid a disgyblion chweched dosbarth yr Ysgol Uwchradd. Cafwyd cyfraniad gan bob grŵp i’r murlun coed, sy’n dehongli coeden addysg, ac sy’n cael ei arddangos yn barhaol tu allan i fynedfa Canolfan Hyfforddiant ôl-16 Bro Ddyfi. Roedd y prosiect yn bosibl diolch i gefnogaeth ariannol gan gynllun Ysgolion Bro Cyngor Sir Powys, a ni oedd yn gyfrifol am hwyluso’r prosiect.
Stan Jankowski oedd yn arwain yr ail ddarn o waith, trwy gynnal gweithdai gyda grwpiau lleol ym Machynlleth i greu draig gopr, sydd i’w gweld ar wal flaen Canolfan Hyddgen. Roedd y prosiect hwn yn bosibl diolch i gefnogaeth gan gynllun Ysgolion Bro Cyngor Sir Powys, gyda chefnogaeth gan Gyswllt Celf.
Eleni rydym wedi rheoli ystod eang o brosiectau mewn chwe Chanolfan Ieuenctid yng Ngogledd Powys - Llanfair Caereinion, Llanfyllin, Llanidloes, Y Drenewydd a’r Trallwng. Trefnwyd gweithdai mewn dawns, enamlo gemwaith, addurno blychau, drama, argraffu crysau-T, dawnsio stryd, drymio Affricanaidd, a dwy ffilm gan gynnwys un a gynhyrchwyd gan Ganolfan Ieuenctid Y Drenewydd am eu clwb. Yn y Trallwng, roedd cyfranogwyr wedi cofnodi eu gweithgareddau yn y clwb ieuenctid, ac wedi cynnwys rhannau o 4 gweithdy a gynhaliwyd gyda’r breg-ddawnsiwr Terry Cripps a thrac sain ddigidol a gynhyrchwyd fel rhan o Brosiect Cerdd Ieuenctid Powys. Hefyd bu Brian Jones yn gweithio yn Ysgol Uwchradd Llanfyllin ar greu collage i fyfyrwyr gallu creu eu stampiau ac amlenni eu hunain. A chynhaliwyd gweithdy gwneud cylchau allweddi a gemwaith yng nghwmni Stan Jankowski fel rhan o gynllun Cychwyn Cadarn a Gwasanaeth Ieuenctid y Drenewydd.
Rydym wedi cefnogi nifer o ddigwyddiadau yn ystod y flwyddyn gan gynnwys ‘Cadw’n Iach’ ym mis Chwefror oedd â’r nod o hyrwyddo byw’n iach, pan ddarparwyd gweithdai gwehyddu gwŷdd pegiau, dawns, gwneud eitemau o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu, gwaith coed, addurno cacennau, trefnu blodau a gwneud gemwaith. Ym mis Mai cefnogwyd diwrnod newydd i hyrwyddo Cysgodfa newydd i Bobl Ifanc, pan drefnwyd gweithdai i gefnogi creu llwybr i’r Gysgodfa gydag Ingrid Maugham a gweithdy gwaith coed gydag Andy Dunn i greu mainc. Ym mis Mehefin, parhawyd â gwaith ar y prosiect, a threfnwyd gweithdy Graffiti yn ogystal. Ym mis Medi cefnogwyd Diwrnod o Hwyl y Trallwng, pan roedd cynulleidfa fawr yn bresennol a chafwyd diwrnod gwych. Cynhaliwyd gweithdy i wneud barcutiaid, gwaith coed i wneud blychau adar, addurno potiau, gwneud gemwaith a chylchoedd allweddi, a gweithdy samba ac offer taro. Yn ogystal â hyn, roedd jyglwr yn crwydro’r maes i hyrwyddo’r Newid i Deledu Digidol. Cynhaliwyd dau weithdy dawnsio stryd gan Mel Jones ym mis Awst fel rhan o Raglen Haf 2009 Heddlu a Chymunedau yn Gyntaf y Trallwng.
Crëwyd darnau o waith gwych pan drefnwyd nifer o weithdai dros hanner tymor mis Chwefror, oedd yn cynnwys gweithdy cerdd gyda Niall Evans, drama yng nghwmni Helen Young a phaentio sidan gyda Sally Duckers.
Bu pobl ifanc o’r Tîm Gadael Gofal yn cymryd rhan mewn dau weithdy, un i greu pypedau cysgod a ffilmio cyfres o luniau ffilm, a diwrnod creadigol arall ar gelfyddydau gyda Dux a Sally Duckers.
Bu pobl ifanc o Ganolfan Ieuenctid Middletown yn gweithio gyda Moni Gately a Helen Young dros gyfnod o ddeg wythnos i greu pantomeim erbyn y Nadolig, a pherfformiwyd y sioe ddwywaith o flaen cynulleidfa fawr oedd wedi mwynhau’r sioe yn fawr iawn.