Prosiectau
   
   

archif

2003 - 2004

2004 - 2005

2005 - 2006

2006 - 2007

 

     
 
prosiect bychan a ymdop 2006
 
Mae Cyswllt Celf wedi rheoli prosiectau mawr a bach eu maint ar ran mudiadau eraill eleni. Ymysg y rhain mae:

Cerflun o Wyl Gregynog

 
Dysgu i’r teulu trwy gelfyddydau, drymio,
 
dawns, crefftau, ysgrifennu creadigol a sesiynau blasu celf ar ran Cyngor Sir Powys.
 
Gweithdai Cerddoriaeth ar ran
 
Gwasanaeth Ieuenctid Powys ym Machynlleth a Llanfair Caereinion.
 
Roedd Prosiect Dawns Cegidfa yn
 
rhedeg ym mis Mawrth a mis Mehefin pan gafodd oedolion a phlant gyfle i gymryd rhan mewn 6 o sesiynau wythnosol i ddarganfod dulliau dawns amrywiol. Bydd y prosiect hwn yn parhau i’r flwyddyn nesaf.
 
Diwrnod o weithgareddau celfyddydol
 
amgylcheddol i ysgolion oedd yn dod i Wyl Gregynog gyda’r artist Hilary Roberts yn cynnal gweithdy ar Gelfyddydau Gweledol.
 
 
Prosiectau Celf i Wasanaeth Ieuenctid  
 
Powys yn Llanfyllin.  
 
Syrcas Circus  
 
Daeth Syrcas Circus i Lanfyllin i gynhyrchu prosiect cymunedol i godi ymwybyddiaeth ynghylch materion amgylcheddol trwy sgiliau syrcas a’r celfyddydau perfformio. Ariannwyd y prosiect hwn gan Gyswllt Celf ac Amgylchedd Cymru, a derbyniwyd cefnogaeth hefyd gan Gyngor Sir Powys.

Rhedodd y prosiect rhwng mis Chwefror ac Ebrill, a chynhaliwyd gweithdai bob yn ail benwythnos oedd yn cynnwys sgiliau syrcas, symud, cerddoriaeth, cynllunio a pherfformio. Roedd y prosiect yn agored i bobl o bob oed a bob gallu, a byddai o leiaf 20 o bobl ym mhob gweithdy, dan arweiniad tîm o 3 o unigolion proffesiynol. Yn ystod y gweithdai hyn, roedd y cyfranogwyr yn dysgu symud ar y trapîs, stilts, diabolo, ac acrobatig a llawer mwy. Yn sgil y pum niwrnod o weithdai, cynhaliwyd perfformiad yn ystod wythnos gyntaf Gwyliau’r Pasg. Hefyd aeth y cyfranogwyr o gwmpas yn casglu sbwriel o safle’r Babell Fawr er mwyn gallu defnyddio’r sbwriel a gasglwyd yn ystod eu perfformiad; hefyd aethant ar orymdaith trwy dref Llanfyllin cyn y perfformiad i bobl cael blas ar eu sgiliau. Roedd y babell lle cynhaliwyd y perfformiad dan ei sang, a’r gynulleidfa wedi mwynhau’r perfformiad yn fawr.

Roedd pawb oedd wedi bod yn rhan o’r prosiect yn teimlo eu bod ar eu hennill o gymryd rhan yn y gweithdai, a gwelwyd hyn yn y ffaith fod pob un o’r cyfranogwyr craidd wedi mynychu pob un gweithdy, hyd yn oed pan oedd

troedfedd o eira ar y llawr! Rhoddodd y prosiect gyfle i’r rhai oedd yn rhan ohono i gael hwyl, cynyddu eu hyder, dysgu sgiliau newydd, creu amgylchfyd cymdeithasol, a llwyddodd hefyd i ddod ag aelodau gwahanol o’r gymuned at ei gilydd mewn gweithgaredd creadigol.

Gweithdai tu fewn i’r Babell Fawr

 

 

Gorymdeithio trwy dref Llanfyllin

 

 

 

Perfformio yn y Babell Fawr

 
Celf i Bobl Ifanc  
 
Bu 5 o d disgyblion o Ysgol Uwchradd Llanfyllin, yn cymryd rhan yn y prosiect hwn, a phob un ohonynt yn perthyn i’r categori pobl ifanc mewn perygl. Bu’r grwp yn gweithio gyda’i gilydd dros gyfnod o 6 mis a’r man cychwyn oedd cyfarwyddo gyda’r offer fyddai ei angen i greu ffilm fer, megis gweithdai camera i allu trin y camera’n hyderus, a theimlo’n gyfforddus o flaen y camera. Aethant i ymweld â Gwyl Ffilm KINO, lle cafwyd cyfle i wrando ar gyflwyniadau gan weithwyr proffesiynol yn y maes. Crëwyd cwmni cynhyrchu gan y grwp, dan yr enw ‘Last Chance Productions’ a dyluniwyd logo ar gyfer eu papur pennawd ac i’w ddefnyddio ar ôl creu’r cynhyrchiad. Cynhaliwyd cyfweliadau gyda myfyrwyr ac athrawon ynghylch eu sylwadau ar ystod o faterion yn ymwneud â’r ysgol, ac arweiniodd hyn at raglen ddogfen gyda’r enw ‘Have We Got Views For You’.
 

O ystyried nad oedd gan unrhyw aelod o’r grwp unrhyw brofiad blaenorol o drin offer ffilmio, dangoswyd lefel sgiliau gwych ganddynt. Trwy gydol y prosiect, llwyddwyd i ennill hyder a chafwyd cyfle hefyd i reoli’r prosiect. Roedd eu gwaith hefyd yn cyfrannu at Wobr Dug Caeredin. Arweinyddion y gweithdai oedd Ruth Carter a Tony Wainwright gyda chymorth gan weithiwr ieuenctid Llanfyllin, Dux.

Ariannwyd y prosiect gan y Gronfa Loteri Fawr a chronfa Cyfle Cyngor Sir Powys trwy Gyswllt Celf.

Gwylio darn o’r ffilm

 
prosiectau bychan
 
 
Cynhaliwyd nifer o brosiectau partneriaeth
 
 
gydagadran Dysgu Gydol Oes Cyngor Sir Powys – yn eu mysg Bywluniadau a Ffotograffïaeth Portreadu.
 
 
Trefnodd Cyswllt Celf ddilyniant i brosiect
 
 
Canu Cymunedol Oldford ar Ystâd Oldford yn y Trallwng (ardal Cymunedau’n Gyntaf). Bydd y CD a gynhyrchwyd yn cael ei werthu er mwyn codi arian ar gyfer yr uned gofal arbennig i fabanod yn Ysbyty’r Amwythig.
 
 
Gwnaethpwyd cyfraniad at Wyl y Gweithdy
 
 
trwy ddarparu gweithdai celfyddydau, canu a drymio ar gyfer teuluoedd.
 
 
Hefyd trefnwyd pedwar diwrnod o weithdai i
 
 
ddisgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd yng nghwmni Sally Duckers, ochr yn ochr â’r Symposiwm Cerfluniau yn Llyn Efyrnwy.
 
 
Murlun Golau a Lliwiau Llanwddyn  
 
Crëwyd y murlun ar y thema Golau a Lliwiau yn Llanwddyn yn y Gwanwyn, a chyfrannodd yr ysgol a’r gymuned leol at y prosiect. Cyswllt Celf oedd yn gyfrifol am reoli’r prosiect a ariannwyd gan gwmni Dwr Hafren Trent. Sally Duckers oedd arweinydd y gweithdai a hi oedd yn gyfrifol am ddylunio’r murlun.

Cynhyrchwyd y fframiau sgwâr i ymestyn y defnydd sidan ac i greu bocsys golau gan aelodau o Glwb Ieuenctid Llanwddyn. Trefnwyd gweithdai mewn paentio sidan gyda phlant tair oed yn y Cylch Meithrin, babanod a phlant iau ysgol gynradd Llanwddyn ynghyd â dwy sesiwn blasu gyda’r hwyr i oedolion. Y clwb ieuenctid oedd yn gyfrifol am greu trigwaith celf wedi’u hôl-oleuo, gan ddefnyddio arwyddeiriau fel man cychwyn, a defnyddio papurau tryloyw, seloffen a laminiadau. Cynhyrchwyd cyfanswm o naw ffrâm unigol ar y murlun, sy’n arddangosfa unedig ar ôl ei oleuo.

Mae’r murlun yn arddangosfa sefydlog yng nghyntedd Canolfan Gymunedol Llanwddyn.

       
   
achlysuron laith gymraeg
 
   

Digwyddiadau ac Arddangosfeydd Cymraeg Trefnwyd nifer o weithdai a digwyddiadau mewn partneriaeth gydag Adran Addysg Dysgu Gydol Oes a Datblygu Cyngor Sir Powys. Ymysg y rhain oedd:

Ysgrifennu Creadigol gyda Cyril Jones
Ffotograffïaeth gyda Tryfan Jones
Cafwyd cyflwyniadau gan Christine Mills a
Penri Roberts
Rydym hefyd wedi gweithio mewn
partneriaethgyda Chymdeithas Adloniant Tanat i ddarparu’r band enwog Cymraeg ‘Frisbee’ ar gyfer pobl ifanc yr ardal.
 
       
 
arddangosfeydd
 
 
Bu arddangosfa o waith a grëwyd gan blant
 
Ysgol Gungrog ar y thema ‘symud’ yn Llyfrgell y Trallwng yn ystod mis Mai 2006.
 
Bu disgyblion Ysgol Uwchradd Llanfyllin yn
 
gyfrifol am lwyfannu dwy arddangosfa o waith blwyddyn 8 ar lawr uchaf y Ganolfan Ieuenctid a Chymuned.
 
Dangoswyd ffilmiau a grëwyd gydag Ysgol
 
 
Gynradd Machynlleth yn y ‘Pink Snowball Awards’. Cyrhaeddodd y plant oedd wedi cymryd rhan mewn limwsîn hir, a chawsant groeso arbennig iawn wrth gyrraedd y Tabernacl ym Machynlleth. Cawsant glod mawr am eu gwaith.
 
 
Mae llawer o’r gwaith a gynhyrchwyd o fewn
 
 

ysgolion fel rhan o’r prosiect i Ddathlu Creadigrwydd Plant wedi cael ei arddangos ym mhob un o’r ysgolion dan sylw i’r rhieni a’r llywodraethwyr cael ei weld.

 
      ^brig
 

© Hawlfraint Cyswllt Celf 1994-2007. Cedwir pob hawl.

Rhif Cwmni Cofrestredig : 02911716

Amdanom Ni - Polisi Preifatrwydd - Telerau ac Amodau Defnyddio’r Wefan - Gwadiad Gwefan - Hysbysiad Hawlfraint - Map O'r Safle