Prosiectau
   
   

archif

2003 - 2004

2004 - 2005

2005 - 2006

2006 - 2007

     
 
prosiect mewn partneriaeth a dan reolaeth
 
Mae Cyswllt Celf yn rheoli ac yn gweinyddu nifer o brosiectau bob blwyddyn i fudiadau eraill. Rydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth gyda mudiadau cyhoeddus a phreifat ar ystod o weithgareddau, gan gynnwys:

 

 

 

Gwasanaeth Ieuenctid Powys

Prosiect Fideo’r Trallwng. Yn ystod mis Hydref a mis Tachwedd, 2006, bu 10 o bobl ifanc o Ganolfan Ieuenctid y Trallwng yn cymryd rhan mewn prosiect fideo dan arweiniad Ruth Carter a Tony Wainwright. Thema bwlio oedd cychwyn y prosiect, ac o hyn, crëwyd ffilm fer, ‘Xtreme Parklife’. Mark Burnett oedd yn gyfrifol am weithdy ar gerddoriaeth ddigidol er mwyn cael sgôr sain wreiddiol.

Prosiect Celf Trefol Y Trallwng. Yn ystod hanner tymor Gwanwyn 2007, bu pobl ifanc o Ganolfan Ieuenctid Y Trallwng yn cymryd rhan mewn gweithdai cerddoriaeth ddigidol a graffiti. Daeth Mark Burnett a Pablo Spaull â deciau ac offer eraill i gynhyrchu cerddoriaeth ddigidol, oedd wedi ennyn diddordeb y bobl ifanc oedd yn rhan o’r prosiect. Yn y gweithdai graffiti, roedd y bobl ifanc wedi cael cyfle i ddysgu am ddylunio, creu, torri stensilau, a chwistrellu paent mewn haenau i greu montage o luniau ar fyrddau. Sally Duckers oedd wedi hwyluso’r ymgynghoriad er mwyn gwrando ar farn a sylwadau’r bobl ifanc - ariannwyd hyn gan raglen Cymunedau’n Gyntaf.

 
 

Cyngor Sir Powys

Artistiaid ar gyfer ‘Yobagora’ yn Llanfyllin a Llandrindod - sef digwyddiad ymgynghori gyda phobl ifanc. Ymysg y cyfryngau a ddefnyddiwyd oedd:
ffilm, celfyddydau gweledol, gwneud barcutiaid, a cherddoriaeth ddigidol.

Gweithdai dawns, gwneud gemwaith, crochenwaith ac ysgrifennu creadigol mewn nifer o leoliadau yng Ngogledd Powys. (mewn partneriaeth gydag Adran Dysgu Gydol Oes a Datblygu Cyngor Sir
Powys)

 
   
 
 
 

Strafagansa’r Hydref i gwmni Severn Trent yn Llyn Efyrnwy

Gweithdai celf amgylcheddol i blant ac oedolion. Perfformiad o gerddoriaeth Gymreig draddodiadol.

 
 
 
 

Ystâd Oldford, Y Trallwng

Gweithdai dawns, cerddoriaeth, helyg a chelf weledol i blant ar gyfer Sioe Oldford.

Prosiect canu cymunedol Oldford, sydd unwaith eto wedi arwain at CD o ganeuon a werthwyd adeg y Nadolig i godi arian ar gyfer yr Uned Ofal Arbennig i fabanod yn Ysbyty’r Amwythig.

 
       
 
prosiectau bychan
 
 

Syrcas Circus

Daeth Syrcas Circus i Lanfyllin yn ystod penwythnos cynta’r Pasg, am yr ail flwyddyn yn olynol, yn dilyn llwyddiant ysgubol y llynedd.

Pwyslais y prosiect oedd rhoi cyfle i’r cyfranogwyr lwyfannu eu sioe eu hunain gyda chymorth tîm proffesiynol. Trefnwyd wythnos o weithdai dwys yn seiliedig ar hanes a straeon gan bobl leol ar weithdy’r Dolydd. Cafodd y 53 o bobl oedd wedi cymryd rhan gyfle i ddysgu am fywyd mewn gweithdy yn y 19eg ganrif a’r amodau byw fyddai wedi wynebu plant o oedran tebyg iddyn nhw. Cafodd thema breuddwydion a dianc i fyd ffantasi lliwgar eu gweu mewn i hyn oll, er mwyn dianc rhag realiti bywyd mewn gweithdy.

Cyn y perfformiad ar ddiwrnod ola’r gweithdai, bu’r cwmni’n cymryd rhan mewn gorymdaith trwy dref Llanfyllin er mwyn dangos y sgiliau a dysgwyd yn ystod yr wythnos.

Roedd y perfformiad terfynol yn cynnwys perfformiad byw, cerddoriaeth, goleuadau a sain ym Mhabell Fawr y Syrcas gyda’r goleuadau gorau posibl, a system sain oedd yn defnyddio ynni’r gwynt a’r haul. Roedd y sgiliau a dangoswyd gan y plant, pobl ifanc a’r oedolion oedd yn rhan o’r perfformiad wedi gwirioni’r gynulleidfa o dros 100 o bobl.

Roedd y plant, y bobl ifanc a’r oedolion oedd wedi bod yn rhan o’r gweithdai wedi datblygu ystod eang o sgiliau syrcas a pherfformio, dan arweiniad arbenigol James Carpenter a’i dîm o gynorthwywyr, a Dux, Gweithiwr Ieuenctid Llanfyllin. Roedd pawb oedd wedi bod yn rhan o’r prosiect yn teimlo eu bod wedi dysgu llawer o fod yn rhan o’r gweithdai, a gwelwyd hyn yn y cyfranogwyr craidd oedd wedi bod yn bresennol ym mhob un gweithdy.

 

 

 
 

 
   
 
Prosiect Llanfyllin

Rhwng Medi 2006 a Chwefror 2007 roedd Cyswllt Celf yn cynnig cyfle i fudiadau amrywiol yn Llanfyllin gymryd rhan mewn gweithdai oedd yn gysylltiedig â’r celfyddydau.

Bu Clochyddion Sant Myllin yn gweithio gyda Ruth Carter a Cordelia Weedon i gynhyrchu Stori Ddigidol gymysgryw ynghylch hanes a chelfyddyd canu clychau.

Cyhoeddwyd y straeon a luniwyd yn y dosbarth Ysgrifennu Creadigol dan arweiniad Ruth Carter ac a drefnwyd gan adran Dysgu Gydol Oes Cyngor Sir Powys.

Mae’r Ffilm a’r Llyfr ar gael i’w benthyg o’r llyfrgell.

Cynhaliwyd diwrnod cyfan yng nghwmni Dennis Williams ac Angus Ogilvy i’r rhai oedd ar y dosbarthiadau Dyfrlliw a Phortreadau a drefnwyd gan adran Dysgu Gydol Oes Cyngor Sir Powys.

Bu Helen Young yn arwain nifer o sesiynau dawns a drama gyda’r cylch chwarae Saesneg, ac o ganlyniad cafwyd perfformiad anffurfiol adeg y Nadolig i rieni.

Hefyd, trefnwyd i Siân James, y delynores sy’n enwog ar lefel ryngwladol, ymweld â’r Cylch Meithrin i gynnal gweithdai cerdd.

Trefnwyd gweithdai cerdd i’r Clwb JAM hefyd.

Bu aelodau ‘Badgers’ Ambiwlans Sant Ioan yn cymryd rhan mewn gweithdai amrywiol: Sgiliau Syrcas gyda Richard Mawson, Dawns gyda Helen Young, Cerddoriaeth gyda Tony Skeggs, Dweud Straeon gyda Tish Evans a Ffotograffiaeth gyda Cordelia Weedon.

Cafodd straeon ac atgofion trigolion Llwyn Teg ynghylch Llanfyllin eu recordio ac aethpwyd â hwy i’r ysgol gynradd lle cafodd y straeon eu cynnwys mewn ffilm fer gyda’r teitl ‘Nadolig Plentyn yn Llanfyllin’. Rhoddwyd perfformiad byw hefyd gan y plant mewn gwasanaeth yn yr ysgol. Sally Duckers a Tish Evans oedd yn gyfrifol am gyfarwyddo a gwneud gwaith mentora i’r prosiect hwn.

Bu Mencap yn cymryd rhan mewn prosiectau dawns gyda Helen Young a rhai celfyddydau gweledol gyda Ingrid Maugham.

Daeth aelodau Merched y Wawr a Chymdeithas yr laith Gymraeg i noson sgwrsio gyda Twm Morys am enwau lleoedd lleol.

Bu’r grwp canu Vox Orbis, yn recordio nifer o ganeuon a gynhyrchwyd gan Tony Skeggs.

Cynhaliwyd nifer o weithdai theatr gyda 120 o bobl ifanc o’r Theatr Ieuenctid Cymraeg yn cymryd rhan. Rhoddwyd perfformiad o’u sioe yn Eglwys Sant Myllin. Penri Roberts oedd yn gyfrifol am oruchwylio’r gweithdai a’r perfformiad.

 
 
 
arddangosfeydd
 
 
Penwythnos Celf Llanfyllin
Cynhaliwyd Penwythnos Celf Llanfyllin fel rhan o Raglen Fforwm Celf Powys ‘Ingredient X’ o 18 - 19 Awst. Yn anffodus oherwydd y glaw, daeth llai o bobl na’r disgwyl, ond roedd y rhai oedd wedi dod wedi mwynhau’r celfyddydau gweledol a’r gweithdai metel, gan gynhyrchu pethau i fynd adre gyda nhw. Ymysg yr arddangosfeydd, ac eitemau i’w prynu oedd cynnyrch gwehyddu pegiau, tecstilau a gwaith gwydr (o gwmni Mirage Glass, Y Felin Llangedwyn), ffotograffau, lluniau a chelfi o ddeunyddiau a ailgylchwyd. Yn yr arddangosfa i fyny grisiau, roedd lluniau a ffotograffau gan Ingrid Maugham, Cordelia Weedon, Jude Howells, Martin Lenton a Brian Earp.

 
 
 
 

Mae llawer o’r gwaith a gynhyrchwyd o fewn ysgolion fel rhan o’r prosiect i Ddathlu Creadigrwydd Plant wedi cael ei arddangos ym mhob un o’r ysgolion dan sylw i’r rhieni a’r llywodraethwyr cael ei weld.

 
      ^brig
 

© Hawlfraint Cyswllt Celf 1994-2007. Cedwir pob hawl.

Rhif Cwmni Cofrestredig : 02911716

Amdanom Ni - Polisi Preifatrwydd - Telerau ac Amodau Defnyddio’r Wefan - Gwadiad Gwefan - Hysbysiad Hawlfraint - Map O'r Safle