|
Daeth
dros 2,100 o gyfranogwyr o ysgolion cynradd ar hyd a lled Gogledd
Powys eleni. Roedd y cyfryngau a ddefnyddiwyd i gynhyrchu ystod
eang o waith celf a chrefft mor amrywiol ag erioed - gwaith gwiail
a phapur sidan, animeiddio, gwneud mainc, paentio portread a gwaith
mosäig oedd rhai o'r dewisiadau poblogaidd eleni. Derbyniwyd
nifer o sylwadau positif oddi wrth ysgolion yn eu hadroddiadau
gwerthuso megis 'Roedd yr artist yn wych - dysgodd y plant gymaint,
ac roeddynt wedi mwynhau'r sesiynau'n fawr iawn'. Erbyn hyn, mae'r
gofyn am y prosiect yn llawer uwch na'r hyn y gallwn ei ddarparu.

|