Prosiectau
   
   

archif

2000 - 2003

2003 - 2004

2004 - 2005

2005 - 2006

2006 - 2007

 

       
 
dathlu doniau creadigol plant 2006
 
 

Prosiect Dathlu Creadigrwydd Plant yw un o brosiectau craidd Cyswllt Celf. Mae’n cynnig ystod amrywiol ac arbenigol o weithgareddau celf a chrefft i blant rhwng 4 a 11 oed.

Hyd yn hyn eleni, mae’r prosiect wedi gwasanaethu 20 o ysgolion yng Ngogledd Powys, gan gynnig dros 2,400 o lefydd i gyfranogwyr. Defnyddiwyd cyfryngau amrywiol fel arfer i gynhyrchu’r gwaith, a chynhyrchwyd ystod eang o weithiau celf a chrefftau. Ymysg y prosiectau roedd: Band Pres Jaipur Kawa, gwaith metel, adeiladu tai 3-D, gwaith animeiddio, paentio tirluniau, gwneud eitemau o helyg, gwaith mosaig, gwaith batik a llawer mwy. Roedd gofyn mawr am y prosiect, ac fe’i dderbyniwyd yn dda yn yr ysgolion.

Hefyd eleni, mae’r prosiect wedi creu CD gydag 38 o Hwiangerddi Cymraeg o’r enw ‘Jac y Do’ – disgyblion o 9 ysgol wahanol yn yr ardal oedd yn canu’r hwiangerddi - Dyffryn Banw, Llanfihangel, Llanfair Caereinion, Llanerfyl, Llanfyllin, Llanrhaeadr, Pontrobert, Pennant and Llanwddyn. a’r rheolwr oedd Arfon Gwilym.

Grwp o sipsiwn Rajasthani o Jaipur yng Ngogledd India yw Band Press Jaipur Kawa. Mae’r band yn cynnwys 8 o gerddorion, fakir a’r ddawnswraig Sapera Kalbelya. Hameed Khan Kawa yw sylfaenydd y grwp, a rhoddwyd perfformiad i blant Ysgol Gynradd Llanfyllin – gwirionwyd y plant gan y perfformiad.


Artistiad - Ingrid Maugham, Ysgol Ardwyn

 

Dangosir isod rhai o’r sylwadau a dderbyniwyd gan ysgolion ac artistiaid:

Hir oes i Gyswllt Celf, oherwydd mae’r profiadau hyn yn hynod werthfawr i blant sy’n byw mewn ardal mor wledig

Ysgol Efyrnwy

Mae’r plant wedi mwynhau’r prosiect yn fawr

Ysgol Berriew

Cynhyrchwyd gwaith gwych, a chafodd y disgyblion lawer o hwyl

Ysgol Meifod

Mae’r disgyblion ar eu hennill o weithio gydag artist proffesiynol, felly daliwch ati efo’r gwaith da

Ysgol Llanfihangel

ARTISTIAD

Roedd lefel y gefnogaeth a’r gwirfoddolwyr yn wych

Laura Hughes

Cymorth a chefnogaeth wych. Roedd yn brosiect uchelgeisiol…ond rhoddodd yr ysgol cymorth ac amser ychwanegol i’m helpu ac roedd hyn yn golygu fod y prosiect yn llwyddiant ysgubol.

Hilary Roberts

Dysgodd y plant technegau artistig newydd - cyflwynwyd agwedd ymchwil mewn hanes a defnyddiwyd mathemateg yn ein cymwysiadau. Roedd y canlyniadau’n lliwgar iawn, ac mae’r ysgol yn hapus iawn

Sally Duckers

newyddiadur adroddiadau

Gwrando ar gerdd:

Jac - y - Do

Si Hei Lwli Mabi

Pedoli Pedoli

Lawrlwytho geiriau'r caneuon

 

 

 

Jaipur Kawa Brass Band, Ysgol Llanfyllin

 

 

 

 

 

 

 

 

Artistiad - Stan Jankowski, Ysgol Llanrhaeadr

 

 

 

 

 

 

Artistiad - Hilary Roberts, Ysgol Meifod

 

 

^brig

 
 

© Hawlfraint Cyswllt Celf 1994-2007. Cedwir pob hawl.

Rhif Cwmni Cofrestredig : 02911716

 
Amdanom Ni - Polisi Preifatrwydd - Telerau ac Amodau Defnyddio’r Wefan - Gwadiad Gwefan - Hysbysiad Hawlfraint - Map O'r Safle