Dathlu Creadigrwydd Plant 2009
Mae’r prosiect Dathlu Creadigrwydd Plant wedi bod yn rhedeg ers dros ddeng mlynedd bellach, a’r nod yw gosod artistiaid proffesiynol mewn ysgolion cynradd ar hyd a lled Gogledd Powys.
Roedd eleni’n llwyddiannus iawn, diolch i’n gwaith mewn partneriaeth â Swyddog Ysgolion Bro Cyngor Sir Powys. Llwyddwyd i weithio gyda 44 o ysgolion cynradd, sef rhyw 87% o’r ysgolion yng Ngogledd Powys, gan ddarparu tua 7,860 o leoedd i blant gael cymryd rhan mewn amrediad o gyfryngau celfyddydol.
Bu nifer o ysgolion yn cymryd rhan yng nghynllun yr Ysgol Goedwig gyda Patrick Harrison pan gafwyd cyfle i greu gweithiau celf amgylcheddol yn eu coedwig leol. Roedd prosiectau eraill yn amrywio o weithdai drama yng nghwmni Penri Roberts, dysgu animeiddio mewn 2D a 3D gyda Graham Roberts, a chelfyddydau gweledol amrywiol mewn 2D a 3D gydag Ingrid Maugham. Trefnwyd gweithdy gwaith metel er mwyn gwneud clociau, dreigiau ac eitemau eraill gyda Stan Jankowski. Bu plant yn gwehyddu helyg yng nghwmni Caroline Lowe, a chynhaliwyd sesiwn dweud straeon yn seiliedig ar chwedlau Cymreig a hanesion eraill gyda Sharon Calder. Cynhyrchwyd darnau crog o decstilau a chyfryngau gweledol eraill dan arweiniad Hilary Roberts, a chafwyd cyfle i ddysgu am ffelt a gwneud lluniau gydag Edna Griffiths. Vikki Reynolds oedd arweinydd y sesiwn gwaith cerameg a Gloria Griffiths oedd arweinydd y gweithdy canu. Un o’r uchafbwyntiau oedd y prosiect ffotograffiaeth gyda Cordelia Weedon, a gynhaliwyd ar yr un pryd â’r ymweliad gan athrawon o Uganda ag ysgolion cynradd Llanfyllin a Llanfechain. Fel rhan o’r prosiect hwn, cynhyrchwyd portffolio o luniau a datganiadau dan y teitl “Ein ffordd o fyw” a rannwyd gyda phlant yn Uganda - y gobaith oedd y byddai hyn yn arwain at bartneriaeth weithgar. Roeddem hefyd yn ffodus i gael artist arall ar ymweliad, Mal Webb, o Awstralia oedd yn ymweld â Llanfyllin a Llanfechain i gyflwyno gweithdy cerdd a bît-bocsio – roedd y plant a’r athrawon wrth eu bodd gyda hyn.



