Strafagansa Celf 09

Mae’r Strafagansa Celf, sef prosiect ar gyfer pobl sydd ag anableddau dysgu, wedi bod yn rhedeg ers dros ddeng mlynedd erbyn hyn.

Eleni mae’r prosiect wedi dod â chyfranogwyr at ei gilydd o Mencap Llanfyllin, Cae Melyn, Rhoslyn, Canolfan Dydd Tre’r Llai a’r dref leol i gymryd rhan mewn gweithdai a gynhaliwyd dros gyfnod o 4 wythnos yn Llanfyllin yn ystod misoedd Gorffennaf ac Awst. Y thema eleni oedd ‘Disgo’ ac ymysg y cyfryngau celfyddydol oedd ar gael oedd cerddoriaeth. Bu’r cyfranogwyr yn mwynhau canu caneuon disgo a chanu offer taro gydag Iris Gordijn; dawns yng nghwmni Helen Young a Sharon Calder, pan ddefnyddiwyd pom poms i greu cyfres o symudiadau gwahanol yn seiliedig ar ganeuon disgo clasurol; Celfyddydau Gweledol dan arweiniad Ingrid Maugham i greu cylchau o wialen a phapur sidan lliw sy’n cael eu harddangos yn y Ganolfan Ieuenctid a Chymunedol.

Ar y prynhawn olaf, cafwyd sesiwn i rannu’r holl waith a grëwyd yn ystod y pedair wythnos, ac yna disgo anffurfiol i orffen.

Delweddau

Arts Extravaganza 2009

Dance with Helen Young

Arts Extravaganza 2009

Visual Arts with Ingrid Maugham

Arts Extravaganza 2009

Music with Iris Gordijn

Arts Extravaganza 2009

All