Prosiectau
   
   

archif

2000 - 2003

2003 - 2004

2004 - 2005

2005 - 2006

2006 - 2007

       
 
strafagansa celf 2006
 
 

Bu bobl o ganolfan Rhoslyn yn cymryd rhan mewn diwrnod o gynhyrchu printiau yn Neuadd y Santes Fair yn y Trallwng ym mis Ebrill 2006. Ar ôl tynnu lluniau, fe’u trosglwyddwyd i bolystyren ac yna cafwyd cyfle i ddewis o liwiau amrywiol i rolio ar ben y polystyren ac yna eu hargraffu ar bapur. Roedd yn ddiwrnod llwyddiannus iawn, ac roedd pawb wedi mwynhau’n fawr.

Cynhaliwyd dau ddiwrnod o weithdai’n seiliedig ar gelfyddydau gweledol gyda Mencap Llanfyllin ym mis Chwefror, a chafwyd cyfle i fwynhau cynhyrchu printiau a phortreadau.

strafagansa celf yr haf

Eleni, daeth grwp o 25 oedolion gydag anableddau dysgu o Roslyn, Mencap, Tre’r Llai, Cae Melyn ac Academi Efyrnwy i gymryd rhan yn y prosiect. Trefnwyd gweithdai cerddoriaeth, oedd yn cynnwys “boom whacker” a delweddau digidol gyda Karin Gomm, dawnsio i gerddoriaeth gyfoes yng nghwmni Helen Young a phaentio a gwneud cerfluniau gydag Ingrid Maugham. Pedair wythnos oedd hyd y prosiect, a daeth i ben gyda digwyddiad i arddangos y gwaith a gynhyrchwyd ar y diwrnod terfynol er mwyn dathlu cyraeddiadau’r prosiect. Diolch hefyd i’r hwyluswyr am eu cymorth gwych: Sally Duckers, Alwyn Wesson-Caberwal, Catherine Lewis a Hayley Mann.

Dawns

 

Cerddoriaeth

 

Celf Weledol

 
 

© Hawlfraint Cyswllt Celf 1994-2007. Cedwir pob hawl.

Rhif Cwmni Cofrestredig : 02911716

 
Amdanom Ni - Polisi Preifatrwydd - Telerau ac Amodau Defnyddio’r Wefan - Gwadiad Gwefan - Hysbysiad Hawlfraint - Map O'r Safle