Prosiectau
   
   

archif

2000 - 2003

2003 - 2004

2004 - 2005

2005 - 2006

2006 - 2007

       
 
strafagansa celf 2007
 
 

Mae Strafagansa Celf wedi bod yn rhedeg ers 9 mlynedd; prosiect yw hwn ar gyfer pobl ag anableddau dysgu. Cynhelir cyfres o weithdai diwrnod o hyd trwy gydol y flwyddyn, yn ogystal â chyfres o weithdai dros yr haf.

Strafagansa Celf y Gwanwyn
Bu Mencap yn cymryd rhan mewn gweithdai Gwehyddu Helyg gyda Caroline Lowe, gan wneud basgedi a llawer o bethau eraill.

Strafagansa Celf yr Haf
Daeth oedolion o Gae Melyn, Lleoliad Dydd Tre’r Llai, Mencap, Rhoslyn a’r gymuned leol i gymryd rhan yn y Strafagansa Celf, fu’n rhedeg am bedair wythnos, ac ar y diwrnod olaf cafwyd arddangosfa o’r gwaith a grëwyd ar thema Tsieineaidd. Gwnaethpwyd cefnlen enfawr o fflamiau, a dafluniwyd i wneud i’r fflamau edrych yn fyw. Arweinwyr y gweithdai celfyddydau gweledol oedd Ingrid Maugham a Caroline Lowe; crëwyd llusernau, cerfluniau ar thema tân a llawer mwy er mwyn creu set a chelfi ar gyfer y grwp dawns a drama dan arweiniad Helen Young i berfformio eu dehongliad o ‘Dong Fang a Gwyl y Llusernau’.

 

 

 

 
 

© Hawlfraint Cyswllt Celf 1994-2007. Cedwir pob hawl.

Rhif Cwmni Cofrestredig : 02911716

 
Amdanom Ni - Polisi Preifatrwydd - Telerau ac Amodau Defnyddio’r Wefan - Gwadiad Gwefan - Hysbysiad Hawlfraint - Map O'r Safle