Swyddi

Tendr Arlunydd ar gyfer Tanffordd 2010 yn Four Crosses ar yr A483

Tendr Artist Tender i Gyswllt Celf - Prosiect Ffilm gyda Chlybiau Ieuenctid Llanfyllin a Llanfair Caereinion -

Briff Artistiaid Prosiect Ysgolion Wrecsam 2010

Download pdf - Tendr Arlunydd ar gyfer Tanffordd 2010 yn Four Crosses ar yr A483

Tendr Arlunydd ar gyfer Tanffordd 2010 yn Four Crosses ar yr A483

- Trefnwyd ar gyfer mis Awst - Medi 2010 -

Cefndir a chyd-destun

Mae Cyswllt Celf, o dan gyfarwyddyd Cyngor Sir Powys, yn rheoli darn o gelfyddyd gyhoeddus a ‘grëwyd’ gan y gymuned yn Four Crosses / Llandysilio ar gyfer tanffordd i gerddwyr sy’n ffurfio rhan o gynllun gwella priffordd yr A483 yn Four Crosses.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn adeiladu rhan newydd o’r ffordd i’r gorllewin o bentref Four Crosses, a bydd yn cynnwys cylchfan pedair cangen i gysylltu’r A483 gyda’r B4393.

Bydd gwelliannau Four Crosses yn cynnwys tanffordd i gerddwyr er mwyn darparu ffordd ddiogel i gerddwyr a beicwyr, yn hytrach na chroesi’r ffordd newydd. Bydd y danffordd yn cysylltu’r Eglwys â’r pentref, yn darparu cyswllt i’r gwasanaeth bysys ac yn ffurfio rhan hefyd o ddargyfeiriad Llwybr Troed Ffordd Offa.

Bydd tanffordd y cerddwyr yn mesur 4.0m x 2.4m o uchder a 15m o hyd ac fe’i hadeiladir o unedau o flychau concrid sydd wedi’u rhag-gastio.

Ar ddiwedd 2009, trefnwyd ymgynghoriad gan Gyswllt Celf gyda chymuned Llandysilio er mwyn hel gwybodaeth am y themâu a’r dyluniadau y carent weld fel rhan o’r gwaith celf. O ganlyniad, cytunwyd ar faes gorchwyl artistig a dyluniad sylfaenol. Ymgymerir â gwaith mosaig i gyflawni’r gwaith celf.

Maes gorchwyl

Cydweithio gyda’r tîm prosiect i drefnu cynllun manwl a chyllideb ar gyfer creu’r gwaith celf.

Disgwylir i’r arlunydd greu’r gwaith trwy gynnwys yr ysgolion cynradd lleol a rhai diwrnodau agored i gynnwys cymuned Llandysilio.

Bydd 3 cham i’r prosiect:

Cam 1 - Awst 2010 - Cyfarfod â’r tîm prosiect i gynllunio’r prosiect - disgwylir mewnbwn o ½ diwrnod - 1 diwrnod yr wythnos gan yr arlunydd

Cam 2 – mis Medi 2010 – Ymgynghori a chychwyn ar gysylltiadau gyda’r ysgolion ar gyfer hyrwyddo’r prosiect – disgwylir mewnbwn o 1-2 ddiwrnod yr wythnos gan yr arlunydd

Cam 3 – mis Hydref 2010 – Creu’r gwaith celf – disgwylir mewnbwn o 4 – 5 diwrnod yr wythnos gan yr arlunydd

Ymgymerir â’r gwaith celf tra bydd y cynllun gwelliannau ar droed a dylai’r arlunydd fod yn ymwybodol y byddant yn gweithio yng nghanol safle adeiladu. Bydd yn ofynnol i’r arlunydd ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant iechyd a diogelwch, yn unol â chyfarwyddyd rheolwr y safle, tra’n gweithio ar y prosiect.

Bydd Cyswllt Celf yn trefnu, lle bo’n briodol, gweithiwr i gynorthwyo’r arlunydd.

Cyfraddau a Chanllawiau

Cytunir ar gyfanswm y gyllideb a diwrnodau’r arlunydd gyda’r tîm prosiect yn dilyn y penodiad. Bydd o leiaf 20 o ddiwrnodau gwaith ar gyfer yr arlunydd.

Canllawiau o ran cyfraddau: Cyfraddau’r arlunydd = £150 y diwrnod ynghyd â chyfraddau ar gyfer cyfarfodydd o £10 yr awr, milltiroedd o dros 50 milltir am daith gyflawn = i dalu £0.40c y filltir. Cytunir ar ddeunyddiau gyda’r tîm prosiect.

Dethol a Chymhwyster

Dylai’r arlunwyr sy’n ymgeisio arddangos profiad o ran celfyddyd gymunedol, ac yn ddelfrydol, profiad o ran creu darnau celf cyhoeddus parhaol. Mae gwybodaeth o waith mosaig yn hanfodol.

Gwahoddir ceisiadau gan arlunwyr unigol neu ddau arlunydd i ymgymryd â gwahanol agweddau o’r maes gorchwyl.

Gweithdrefnau ymgeisio

Gwahoddir arlunwyr i gyflwyno llythyr eglurhaol, yn cynnwys:

  • Enw a manylion cyswllt
  • Datganiad gan yr arlunydd (cyfanswm o 500 o eiriau) ynglŷn â’i brofiadau artistig
  • Datganiad o’r modd y bydd yn ymdrin â’r maes gorchwyl
  • 5 delwedd o leiaf i arddangos gwaith blaenorol
  • CV
  • Rhif cyfeirnod y Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB) a’r dyddiad dosbarthu (os nad oes gennych dystysgrif CRB, mae’n ofynnol i chi ymgymryd â gwiriad adnabod y CRB cyn gynted ag y cewch eich penodi.)

D.S.: Petaech yn methu â chyflenwi unrhyw wybodaeth fel y nodir uchod, mae’n bosibl y dilëir eich cais.

Anfonwch eich cais, un ai drwy’r post neu e-bost, at:

Cyswllt Celf, Canolfan Ieuenctid a Chymuned, Llanfyllin, Powys, SY22 5DR neu anfonwch e-bost at:

Amserlen:

Dyddiad cau Dydd Gwener, 16eg Gorffennaf 2010

Hysbysiad Dydd Gwener, 23ain Gorffennaf 2010

Cychwyn/Gorffen Awst – Mis Hydref 2010

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau: Dydd Gwener, 16eg Gorffennaf 2010

Ystyrir pob cais gan y panel dethol.

Download pdf - Tendr Artist Tender i Gyswllt Celf - Prosiect Ffilm gyda Chlybiau Ieuenctid Llanfyllin a Llanfair Caereinion -

Tendr Artist Tender i Gyswllt Celf - Prosiect Ffilm gyda Chlybiau Ieuenctid Llanfyllin a Llanfair Caereinion -

Rhaglennir i ddigwydd yn ystod Tymor yr Hydref 2010

Cefndir a Chyd-destun

Mae Cyswllt Celf yn rheoli prosiect ffilm i Wasanaeth Ieuenctid Powys.

Canlyniad y prosiect yw creu ffilm 10 munud i hyrwyddo’r Gymraeg a Diwylliant Cymreig mewn perthynas â materion sy’n effeithio ar bobl ifanc.

Briff

Mae angen gwneuthurwr ffilm a hwylusydd i alluogi pobl ifanc o Glybiau Ieuenctid Llanfyllin a Llanfair Caereinion i greu ffilm 10 munud ar thema’r Gymraeg a Diwylliant Cymreig.

Bydd y prosiect yn rhedeg dros gyfnod o 10 wythnos yn ystod Tymor yr Hydref, gyda 5 sesiwn ym mhob lleoliad. Y nod yw caniatáu i’r bobl ifanc eu hunain ddysgu’r sgiliau fydd eu hangen, a chreu’r ffilm eu hunain gyda chefnogaeth broffesiynol yr artist a’r hwylusydd.

Mae’n rhaid i’r darn o waith fod yn ysbrydol, creadigol a gwreiddiol gyda gwerthoedd cynhyrchu rhagorol.

Bydd pum diwrnod ar gael i olygu’r ffilm 10 munud derfynol.

Gellir ymgeisio’n unigol naill ai fel artist neu fel hwylusydd, neu gellir cyflwyno cais ar y cyd.

Offer a ddarperir gan Gyswllt Celf

  • 2 gamera Canon XM2 & 3 Canon Legria HF-S10
  • 2 Treipod
  • 4 Gliniadur Apple gyda rhaglen Final Cut Express (Mae’r rhaglen Pro ar gael yn swyddfa CC)
  • Meicroffon Sennheiser a dyfais recordio

Ffïoedd

Telir ffi artist o £75 y sesiwn (3 awr). Telir ffi hwylusydd o £30 y sesiwn. Os ydych yn teithio dros 50 milltir (cyfanswm yno ac yn ôl) telir costau teithio ar raddfa £0.40 y filltir.

Dethol a Chymhwyster

Bydd angen i artistiaid sy’n ymgeisio dangos profiad o weithio gyda phobl ifanc, profiad o weithio ar ffilm(iau) cymunedol, a byddai’n ddymunol cael gwneuthurwr ffilm sy’n siarad Cymraeg a/neu sy’n deall diwylliant a threftadaeth Cymru.

Y Broses Ymgeisio

Artist:

Llythyr atodol gydag:

  • Enw a Manylion Cyswllt
  • Datganiad gan yr Artist (500 gair uchafswm) ynghylch eich gwaith artistig
  • Cynllun i’r sesiynau
  • Datganiad ynghylch sut byddwch yn ymgysylltu â’r bobl ifanc i drafod Y Gymnraeg a diwylliant Cymru.
  • Rholyn arddangos – naill ai ar DVD neu wefan neu Youtube
  • CV
  • Rhif CRB a’r Dyddiad Cyhoeddi (os nad oes gennych wiriad CRB cyfredol, bydd angen i chi fynd drwy’r broses cyn cychwyn y prosiect – cost hyn fydd £36)

Hwylusydd:

Llythyr atodol gyda:

  • CV
  • Rhif CRB a’r Dyddiad Cyhoeddi (os nad oes gennych wiriad CRB, bydd angen i chi fynd drwy’r broses cyn cychwyn y prosiect – cost hyn fydd £36) )

DS: gall methu â chyflwyno unrhyw un o’r uchod ddiddymu eich cais.

Dylid anfon eich cais naill ai drwy e-bost neu drwy’r post at: Cyswllt Celf, Canolfan Ieuenctid a Chymunedol, Llanfyllin, Powys, SY22 5DR neu gellir e-bostio at:

Dyddiad cau i dderbyn ceisiadau: Dydd Llun 2ail Awst 2010

Bydd pob cais yn cael ei adolygu gan Banel Dethol fydd yn cynnwys cynrychiolwyr o Gyswllt Celf a mudiadau partner.

Download pdf - Briff Artistiaid Prosiect Ysgolion Wrecsam 2010

Download pdf - AMLINELLIAD O GYNNIG PROSIECT

Briff Artistiaid Prosiect Ysgolion Wrecsam 2010

- Rhaglennir i ddigwydd Mis Medi 2010 - Chwefror 2011 -

Cefndir a Chyd-destun

Bydd Cyswllt Celf yn rhedeg rhaglen o weithgareddau celf o fewn ysgolion Wrecsam er mwyn hyrwyddo’r Eisteddfod Genedlaethol sydd i’w chynnal yno yn 2011, yn ogystal â dathlu Blwyddyn Diwylliant Wrecsam yr un flwyddyn. Bydd y rhaglen o weithgareddau yn cychwyn ym mis Medi 2010 ac yn rhedeg hyd at Chwefror 2011.

Briff

Rhedeg gweithdai celf o fewn ysgolion Wrecsam trwy gyfrwng y Gymraeg neu yn ddwyieithog, neu gyda chysylltiad cryf â diwylliant a threftadaeth Cymru. Gellir cynnal prosiectau mewn unrhyw gyfrwng celfyddydol - celfyddydau gweledol, cerddoriaeth, ffilm ac ati.

Ni ddylai cynigion prosiect barhau am fwy na 5 niwrnod (neu amser cyffelyb); efallai yr hoffech gynnwys amrediad o strwythurau h.y. prosiectau y gellir eu cyflawni o fewn diwrnod neu ddau, ac y gellir eu rhedeg mewn nifer o ysgolion.

Bydd angen i chi gynnwys cyllideb gyda ffioedd artistiaid, costau deunyddiau, costau teithio ac ati, a nodi hefyd pa gefnogaeth ychwanegol fydd ei hangen i’r prosiect.

Canllawiau Tâl at bwrpas Cyllidebu

Cyfradd Ddyddiol Artist - £150; os ydych yn teithio dros 50 milltir (cyfanswm yno ac yn ôl) telir costau teithio ar raddfa £0.40 y filltir.

Dethol a Chymhwyster

Bydd angen i artistiaid sy’n ymgeisio dangos profiad ym maes celfyddydau cymunedol, a phrofiad o weithio gyda phlant oedran cynradd a phobl ifanc.

Y Broses Ymgeisio

Gofynnir i artistiaid gyflwyno:

  • Ffurflen Cynnig Prosiect
  • Llythyr Atodol
  • O leiaf 5 llun o waith blaenorol (os nad ydych wedi gweithio i Gyswllt Celf o’r blaen)
  • CV
  • Rhif CRB a’r Dyddiad Cyhoeddi (os nad oes gennych wiriad CRB, bydd yn rhaid i chi fynd drwy’r broses wirio cyn cychwyn ar y prosiect; cost hyn yw £36)

D.S.: gall methu â chyflwyno unrhyw un o’r uchod ddiddymu eich cais.

Dylid anfon eich cais, naill ai ar e-bost neu drwy’r post at: neu Cyswllt Celf, Canolfan Ieuenctid a Chymunedol, Llanfyllin, Powys, SY22 5DR

Dyddiad cau i dderbyn ceisiadau: Dydd Llun 2ail Awst 2010