Cystadleuaeth Ffotograffiaeth
 
Mae Cyswllt Celf a Chymdeithas Ddinesig Llanfyllin yn falch o gydweithio ar gystadleuaeth ffotograffiaeth o dan nawdd Asiantaeth yr Amgylchedd, Rainbow Recruitment a Stadco UK.

Cewch wybodaeth yma ynghylch y gystadleuaeth Ffotograffiaeth.

Mae 3 chategori ar gyfer ffotograffau:

Ffermio a Chefn Gwlad (noddwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd)

Cymdogion (noddwyd gan Stadco UK)

Gwaith (noddwyd gan Rainbow Recruitment)

Beth yw'r meini prawf ar gyfer y ffotograffau a gyflwynir?

Rhaid i’r holl ffotograffau fod wedi’u tynnu yn Nyffryn Afon Cain – Llanfyllin a’r ardal o’i chwmpas. Gallwch weld ar y map ar y dde beth sy’n cael ei ystyried fel rhan o Ddyffryn Afon Cain.

Faint mae’n gostio i gymryd rhan?

Dim byd o gwbl!

Pa wybodaeth arall mae’n rhaid i mi ei ddarparu wrth gyflwyno fy ffotograff?

Byddwn angen eich enw a manylion cyswllt gyda’ch ffotograff. Byddwch yn cytuno i Delerau ac Amodau’r gystadleuaeth - gallwch eu darllen yma - wrth gyflwyno’ch ffotograff.

Faint o ffotograffau alla i eu cyflwyno?

Faint bynnag a fynnwch!

Sut alla i gyflwyno fy ffotograff?

Gallwch gyflwyno’ch ffotograffau mewn nifer o ffyrdd:

Ewch i swyddfa Cyswllt Celf (yn y Ganolfan Ieuenctid a Chymunedol, Llanfyllin) gyda disg neu bin USB gyda’r ffotograffau arno neu ddod â fersiwn wedi’i argraffu o’r ffotograff.

neu

Gallwch e-bostio’ch delweddau i swyddfa Cyswllt Celf ar:

Gallwch bostio’r ffotograff i swyddfa Cyswllt Celf.

Cofiwch y gallwch gyflwyno ffotograffau naill ai wedi’u hargraffu neu’n ddigidol ond byddwn yn cael arddangosfa ble bydd ffotograffau digidol yn cael eu harddangos fel sioe sleidiau trwy daflunydd. Felly os hoffech i gopi caled o'ch ffotograff gael ei arddangos yna dylech gyflwyno copi wedi'i argraffu.

Pa ansawdd ddylai’r ffotograffau fod?

Gallai’ch ffotograffau fod wedi cael eu cymryd ar unrhyw fformat – ffôn symudol, ffilm ayb. Ond bydd y fformat yn effeithio ar ansawdd y ffotograff.

Am ffotograffau o'r ansawdd gorau:

Dylai’ch camera lwytho i fyny ffotograffau yn y maint hwn yn awtomatig – ond cofiwch y derbynnir unrhyw faint neu ansawdd.

Beth yw’r gwobrwyon ar gyfer bob categori?

Gwobrwyon Gwaith a Chymdogion

Dros 16 - £50, £40, £30, £20, £10

O dan 16 - £25, £20, £15, £10, £5

Gwobr Ffarmio a Chefn Gwlad

Fe gyhoeddir y lluniau buddugol mewn calendr a bydd delweddau’r enillwyr cyffredinol yn cael eu hatgynhyrchu’n broffesiynol.

Beth yw’r Terfyn Amser?

20 Awst 2008

 

 

CYSYLLTAU

Llanfyllin Civic Society

Rainbow Recruitment

Stadco UK

Telerau ac Amodau

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

© Hawlfraint Cyswllt Celf 1994-2008. Cedwir pob hawl.

Rhif Cwmni Cofrestredig : 02911716

Amdanom Ni - Polisi Preifatrwydd - Telerau ac Amodau Defnyddio’r Wefan - Gwadiad Gwefan - Hysbysiad Hawlfraint - Map O'r Safle