Cystadleuaeth Ffotograffiaeth
 
Caniatâd
Rhaid i bawb y tynnir eu ffotograff roi eu caniatâd i'w ffotograff gael ei gyflwyno i’r gystadleuaeth. Peidiwch â chyflwyno ffotograff o rywun nad yw’n hoffi cael tynnu ei ffotograff!

Hawlfraint
Dylech chi fod yn berchen ar hawlfraint yr ymgeision (h.y. chi a gymerodd y ffotograff) Byddwch chi’n cadw holl hawlfraint y ffotograffau ond byddwch yn caniatáu i Cyswllt Celf, Asiantaeth yr Amgylchedd a Chymdeithas Ddinesig Llanfyllin ddefnyddio'r ffotograff yn rhad ac am ddim i roi cyhoeddusrwydd i'w sefydliad ac i'r gystadleuaeth (sonnir yn llawn am y ffotograffydd bob tro y defnyddir y ffotograff. Gall Asiantaeth yr Amgylchedd hefyd ddefnyddio’r ffotograffau yn rhad ac am ddim i gynhyrchu calendr.


Arddangosfa
Bydd y ffotograffau’n cael eu harddangos yn Institiwt Gyhoeddus Llanfyllin ac efallai yn y Ganolfan Ieuenctid a Chymunedol, Llanfyllin.

Diddymu ymgais
Rydym yn cadw’r hawl i dynnu ffotograff o’r gystadleuaeth os yw’n torri unrhyw un o’r eitemau yn y Telerau ac Amodau neu os nad yw’r ffotograff wedi’i dynnu yn Nyffryn Afon Cain.

Atebolrwydd
Er y bydd Cyswllt Celf, Asiantaeth yr Amgylchedd a Chymdeithas Ddinesig Llanfyllin yn gwneud pob ymdrech posibl i gymryd gofal rhagorol o’r holl waith a gyflwynir i’r gystadleuaeth, ni allwn ddychwelyd delweddau ar ôl iddynt gael eu hanfon ac ni ellir ein dal yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod i'r gwaith. Felly peidiwch ag anfon yr unig gopi o’r ffotograff – cadwch gopi meistr!

Terfyn Amser
Daw’r gystadleuaeth i ben ar 31 Gorffennaf 2008. Ni ystyrir unrhyw geisiadau ar ôl y dyddiad hwn ar gyfer eu gwobrwyo ond efallai y cant eu harddangos.

Beirniadu
Mae penderfyniad y beirniaid yn derfynol. Ni fydd unrhyw ohebiaeth.

Côd Cefn Gwlad
Cadwch at y Côd Cefn Gwlad bob amser wrth ymweld â chefn gwlad a chymryd ffotograffau:-

Parchwch – Gwarchodwch – Mwynhewch

Byddwch yn ddiogel – cynlluniwch ymlaen a dilyn yr arwyddion

Cofiwch adael giatiau ac eiddo fel y byddwch yn eu canfod

Gwarchodwch anifeiliaid a phlanhigion, ac ewch a’ch ysbwriel gartref

Cadwch gwn o dan reolaeth lem

Ystyriwch bobl eraill

“Dilynwch y Côd Cefn Gwlad ble bynnag yr ewch. Cewch y gorau allan o gefn gwlad a byddwch yn helpu i’w gynnal yn awr ac ar gyfer y dyfodol.”

Dilynwch hawliau tramwy cyhoeddus pob amser neu gofynnwch am ganiatâd y tirfeddianwyr cyn mynd ar eiddo preifat.

Mae rhagor o wybodaeth am y côd cefn gwlad ar gael ar:

http://www.countrysidecodewales.org.uk/
advice-for-visitors.aspx

PARCHWCH Y CÔD CEFN GWLAD

Cyllidir y gystadleuaeth gan Stadco UK, Rainbow Recruitment ac Asiantaeth yr Amgylchedd ac mae’n cael ei chefnogi gan Cyswllt Celf a Chymdeithas Ddinesig Llanfyllin.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

© Hawlfraint Cyswllt Celf 1994-2008. Cedwir pob hawl.

Rhif Cwmni Cofrestredig : 02911716

Amdanom Ni - Polisi Preifatrwydd - Telerau ac Amodau Defnyddio’r Wefan - Gwadiad Gwefan - Hysbysiad Hawlfraint - Map O'r Safle